Wrth iddi brysuro yn Wrecsam cyn y Nadolig, rydym yn atgoffa gyrwyr y gallant gael dirwy am barcio mewn ardaloedd cyfyngedig neu fynd dros eu hamser yn y meysydd parcio – yn cynnwys gyda’r nos ac ar benwythnosau.
Mae hyn yn cynnwys unrhyw stryd ble mae llinellau melyn ac yn enwedig mewn ardaloedd prysur fel Stryt Egerton, Stryt y Brenin a Stryt y Dug, baeau llwytho, meysydd parcio a’r ardaloedd i gerddwyr yng nghanol y ddinas yn ogystal â’r cyfyngiadau mewn ardaloedd poblogaidd megis Traphont Ddŵr Pontycysyllte.
Gall parcio’n anghyfrifol gostio £70 i chi i ddechrau ac os na fyddwch yn ei dalu, mae’r gost yn cynyddu. Mae’r Cyngor yn olrhain pob dirwy parcio mae’n eu cyhoeddi.
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrecsam.gov.uk/services/cymorth-gyda-chostau-byw”] HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI [/button]