Mae Cyngor Wrecsam wedi gweld ei nifer o dai gwag wedi lleihau bron i 50% dros y 2 flynedd ddiwethaf; ar hyn o bryd dim ond 1% o’n stoc sy’n wag gennym, wrth i’r gwaith adnewyddu gymryd lle rhwng ein deiliaid contract.
Bob blwyddyn, byddwn yn disgwyl rhwng 600-700 o eiddo i ddod yn wag, sydd yna’n cael ei neilltuo i un ai ein Sefydliad Llafur Uniongyrchol (SLlU) neu gontractwyr allanol i gwblhau’r gwaith adferol. Dyma ffigwr ar gyfartaledd sy’n seiliedig ar flynyddoedd blaenorol.
Mae’r adran wedi buddsoddi’n sylweddol ar adnewyddu eiddo gwag dros y 6-7 mlynedd diwethaf, ac mae hyn wedi bod o gymorth mawr gyda’r amseroedd cwblhau ar gyfer ein rhaglen adnewyddu eiddo gwag. Eleni, bydd £11 miliwn bellach yn cael ei fuddsoddi mewn eiddo gwag a bydd y rhain yn cael eu cwblhau yn defnyddio cyfuniad o’n SLlU mewnol a chontractwyr allanol.
Mae’r flwyddyn ariannol bresennol yn gweld Cyngor Wrecsam yn newid ei weledigaeth ryw fymryn ar ei raglen adnewyddu. Mae’r galw i gwrdd â Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC 2023) a chynlluniau Sero Net ar gyfer y dyfodol yn profi i fod yn her anferthol yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni.
Yn achlysurol yn ystod y flwyddyn ac wrth ddefnyddio’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio mae cyfanswm bychan o eiddo wedi cael eu hadnewyddu’n llawn fel rhan o’r cynllun peilota. Dyma’r gwaith sy’n cael ei wneud i leihau ôl-troed carbon yr eiddo, a hefyd bydd y cynlluniau peilota hyn yn helpu ein deiliaid contract gyda chostau ynni llai oherwydd effeithiolrwydd ynni yr eiddo sydd wedi’i drawsnewid.
Yn y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi cwblhau 10 eiddo tebyg, ac rydym yn rhagweld y byddwn yn cynyddu’r ffigyrau hyn flwyddyn ar flwyddyn.
Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Tai, “Rydym yn parhau i weithio ar ein heiddo gwag fel eu bod nhw’n cyrraedd y Safon Ansawdd Tai Cymru newydd.
“Dwi’n falch er gwaethaf yr heriau ariannol ein bod wedi llwyddo i leihau ein stoc o eiddo gwag bron i 50%.
“Mae’r adnewyddiad ôl-osod yn ddefnyddiol ar gyfer ein deiliaid contract gan ei fod yn gallu lleihau costau a chynyddu effeithiolrwydd ynni eu heiddo, fodd bynnag bydd adnewyddiadau yn y dyfodol yn dibynnu ar gyllid.”