Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae Freedom Leisure yn codi hwyl wrth godi arian ar Ddiwrnod y Byd Ar Gyfer y Galon
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Mae Freedom Leisure yn codi hwyl wrth godi arian ar Ddiwrnod y Byd Ar Gyfer y Galon
Busnes ac addysgPobl a lle

Mae Freedom Leisure yn codi hwyl wrth godi arian ar Ddiwrnod y Byd Ar Gyfer y Galon

Diweddarwyd diwethaf: Medi 26, 2019 4:29 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Leisure Centres
RHANNU

Bydd nifer o ddigwyddiadau codi arian yn cael eu cynnal yng nghanolfannau hamdden Wrecsam yr wythnos hon.

Bydd digwyddiadau elusennol er budd Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau Waterworld ddydd Gwener, 27 Medi, ac yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau’r Waun ddydd Sadwrn 28 Medi a dydd Sul 29 Medi (Diwrnod y Byd Ar Gyfer y Galon)

Mae Rheolwr Codi Arian Sefydliad Prydeinig y Galon, Cheryl Lockyer, yn annog pawb yn yr ardal i ymuno â nifer o ddigwyddiadau elusennol a fydd yn codi arian ar gyfer gwaith ymchwil yr elusen, sy’n achub bywydau.

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

Meddai Cheryl: “Mae hyn yn addo i fod yn ddiwrnod anhygoel o weithgareddau i gefnogi Diwrnod Y Byd Ar Gyfer Y Galon, ac rydym yn ddiolchgar iawn i Freedom Leisure am eu cefnogaeth. Bydd yr arian a godir yn helpu Sefydliad Prydeinig y Galon i noddi canfyddiadau arloesol ac yn nodi triniaethau newydd a all helpu i achub rhagor o bobl rhag effeithiau dinistriol clefyd y galon.”

Mae tua 17,000 o bobl yn Sir Wrecsam ar hyn o bryd yn brwydro clefyd y galon a chlefyd cylchredol yn ddyddiol. Mae’r cyflyrau dinistriol hyn yn cymryd bywydau 363 o bobl yn y sir bob blwyddyn.

Bydd pobl sy’n mynd i’r digwyddiadau hyn yn gallu cymryd rhan mewn dosbarth ffitrwydd, rhoi dillad, llyfrau a bric a brac diangen, neu dod i ganfod rhagor am sut i fyw bywyd iachach.

Dywedodd David Watkin a Richard Milne, Rheolwyr Canolfannau Hamdden y Waun a Waterworld Wrecsam:  “Rydym wir yn edrych ymlaen at ddiwrnod llawn o weithgareddau codi arian a hyrwyddo ffyrdd o fyw’n iachach.  Mae’n mynd i fod yn ddigwyddiad ffantastig, ac rydym yn gobeithio gweld llawer o bobl yn dod ynghyd i ymuno â ni i rhoi terfyn ar dor—calon am byth.”

“Rydym yn gobeithio hel cannoedd o bunnoedd i waith ymchwil Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru sy’n achub bywydau, a fydd yn helpu gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl sy’n byw gyda chlefydau’r galon a chylchredol.”

Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi, sydd â chyfrifoldeb dros Hamdden: “Rwy’n falch iawn bod ein partneriaid yn Freedom Leisure wedi gallu trefnu’r diwrnodau codi arian hyn yn ein canolfannau hamdden a gweithgareddau yn Waterworld a’r Waun, ac rwy’n gobeithio y bydd Sefydliad Prydeinig Y Galon yn gallu codi gymaint o arian â phosib ar draws y dau ddiwrnod.”

Am ragor o wybodaeth, ewch i’ch canolfan hamdden leol.

Am ragor o wybodaeth ar grwpiau codi arian Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru, neu i gychwyn grŵp yn eich cymuned, ewch i www.bhf.org.uk/localfundraising (dolen gyswllt i wefan Saesneg)

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Climate Emergency Wrexham Y Cyngor yn nodi’r hyn sydd angen ei wneud yn yr Argyfwng Hinsawdd
Erthygl nesaf Siop Ailddefnyddio neu ogof Aladdin? Gwyliwch ein fideo i weld dros eich hun... Siop Ailddefnyddio neu ogof Aladdin? Gwyliwch ein fideo i weld dros eich hun…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English