Mae’r adeiladwyr yn gweithio ar ein cyfleuster Lles ac Iechyd Cymunedol newydd (yn Adeiladau’r Goron) wedi codi arian ac addurno parseli a fydd yn cael eu rhoi i bobl ddigartref Wrecsam yn ystod y Nadolig.
Darganfyddwch y gwybodaeth diweddaraf am Brechlyn Coronafeirws
Yn ysbryd y Nadolig, bu i’r criw o Read Construction addurno a llenwi parseli a oedd yn addas i bobl o bob oed a rhyw.
Bydd yr arian a gesglir yn mynd tuag at dalu am bethau ymolchi.
Bydd staff Dewisiadau Tai yn sicrhau bod y parseli yn cael eu dosbarthu i bobl sydd mewn llety dros dro dros y Nadolig hwn.
Dywedodd y Cynghorydd David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai: “Diolch i Read Constructions am eu cyfraniad caredig – bydd yn helpu’r rheiny sydd yn ddigartref ac yn byw mewn llety dros dro dros gyfnod y Nadolig.
“Mae ysbryd y Nadolig yn parhau er yr amseroedd caled sydd ohoni,”
Darganfyddwch y ffeithiau…darllenwch y gwybodaeth diweddaraf am brechlyn Covid-19 gan GIG Cymru
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/”]CANFOD Y FFEITHIAU[/button]