Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Maen nhw’n dod adre!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Maen nhw’n dod adre!
ArallPobl a lle

Maen nhw’n dod adre!

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 27, 2019 3:27 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Maen nhw’n dod adre!
RHANNU

Bydd sŵn martsio i’w glywed unwaith eto ym Marics Hightown ar ôl i 3ydd Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, unig Fataliwn Gwŷr Traed Wrth Gefn Cymru adleoli eu Bataliwn Gwrth-danciau yno cyn bo hir.

Meddai’r Cynghorydd David Griffiths, Cefnogwr y Lluoedd Arfog: “Mae hyn yn newyddion rhagorol ac yn dilyn lobio caled parhaus ar ran y Cyngor a’i staff Lluoedd Arfog i sicrhau bod Wrecsam yn cadw’i enw fel cartref ein lluoedd arfog. Rydym yn llwyr gefnogi’r lluoedd arfog ac yn llofnodwyr balch Cyfamod y Lluoedd Arfog.”

CADWCH YN DDIOGEL – DERBYNIWCH Y RHYBUDDION DISEDDARAF AR SGAMIAU GALW NÔL CYNNYRCH A MATERION DIOGELU’R CHYHOEDD ERAILL

Mae gan y Cymry Brenhinol gysylltiad hanesyddol â Wrecsam, a Hightown yn benodol. Roedd Hightown yn ddepo i’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig am flynyddoedd lawer ac yn Bencadlys i’w 3ydd Bataliwn tan eu cyfuno yn 1999. Roedd gan y 3ydd bataliwn gwmni wedi’i leoli yno mor ddiweddar â 2013.

Meddai’r Prif Swyddog, Lefftenant-Cyrnol Ged Murphy: “Mae’n newyddion gwych ein bod ni fel Catrawd am ail-sefydlu ein hunain yn Wrecsam yn yr hirdymor. Mae’r ardal, ac yn benodol Barics Hightown, yn gyfystyr a’r Cymry Brenhinol a’u catrodau rhagflaenol, yn enwedig y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Rydym yn hynod o falch o’n cysylltiadau â phobl Wrecsam ac yn edrych ymlaen at atgyfnerthu ein perthynas gyda phawb yn y rhanbarth dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.”

Dros yr ychydig fisoedd nesaf byddant hefyd yn recriwtio pobl ar gyfer lluoedd wrth gefn y fyddin – gyda neu heb brofiad milwrol, a byddant allan ar strydoedd Wrecsam yn tynnu sylw at y swyddi sydd ar gael yn y catrodau Rheolaidd ac Wrth Gefn. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb fynd i www.theroyalwelsh.co.uk <http://www.theroyalwelsh.co.uk>

Bydd hyfforddiant yn cael ei gynnal ar nosweithiau Mercher, rhai penwythnosau ac yn ystod gwersylloedd ymarfer dros bythefnos bob blwyddyn, sydd yn aml dramor. Ym mis Gorffennaf eleni byddant yn mynd i Michigan yn yr Unol Daleithiau ac maen nhw eisoes wedi bod ar ymarferion yn yr Almaen, Sbaen, Cyprus â’r Deyrnas Unedig yn ddiweddar.

Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Bellevue Park Walking Bandstand 5 o barciau gwledig Wrecsam y dylech ymweld â nhw’r haf hwn
Erthygl nesaf O Dan Y Bwâu - Cystadleuaeth ffotograffiaeth O Dan Y Bwâu – Cystadleuaeth ffotograffiaeth

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle

Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.

Hydref 1, 2026
the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English