Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae’r Gaeaf ar ei ffordd!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Mae’r Gaeaf ar ei ffordd!
Pobl a lleY cyngor

Mae’r Gaeaf ar ei ffordd!

Diweddarwyd diwethaf: Medi 30, 2019 12:47 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Mae'r Gaeaf ar ei ffordd!
RHANNU

Mae’r clociau wedi troi ac rydym yn troi ein sylw at dywydd y gaeaf nawr ???? ????

Cynnwys
  • “Graeanu neu beidio?”
  • “Helpu lle gallwch”

Fel bob amser, mae ein hadran yr Amgylchedd yn gobeithio am y gorau ond cynllunio ar gyfer y sefyllfa waethaf o ran eira, rhew, gwyntoedd cryfion, neu beth bynnag a ddaw.

Rydym am sicrhau bod yr holl gytundebau ar waith gennym i’n helpu i ymdopi ag amodau gwael a gallu mynd allan gyda chyn lleied â phosibl o amhariad.

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

Mae gennym fflyd o gerbydau graeanu wedi’u cynnal a’u cadw’n dda iawn, a 30 o wirfoddolwyr o’r adran Strydwedd sy’n gweithio’n galed a chamu i mewn i yrru’r cerbydau.

Mae gennym 10 llwybr graeanu ynghyd ag 8,000 tunnell o raean a gaiff ei lenwi bob tro byddwn yn graeanu’r ffyrdd.

Mae gennym gynlluniau ar waith i gwmpasu cyfnodau estynedig o dywydd difrifol sy’n cynnwys cynlluniau i raeanu ystadau tai (lle mae’n ddiogel i wneud hynny) cyn casgliadau biniau, a chadw ardaloedd fel llety gwarchod a llwybrau ysgol mor glir a diogel ag sy’n bosibl.

“Graeanu neu beidio?”

Hwn yw’r cwestiwn mae ein goruchwylwyr profiadol yn ei wynebu sawl gwaith y dydd. Os byddwn yn graeanu’n rhy gynnar, gallai gael ei olchi i ffwrdd gan y glaw. Os byddwn yn graeanu’n rhy hwyr, gallai fod yn llithrig.

Os hoffech wybod a yw’r cerbydau graeanu allan, gallwch gadw llygad ar ein cyfrif Twitter – neu dilynwch #wxmgrit.

Mae'r Gaeaf ar ei ffordd!twitter.com/cbswrecsam

Rydym hefyd yn anfon negeseuon atgoffa drwy’r system Fy Niweddariadau sy’n anfon negeseuon e-bost at danysgrifwyr yn uniongyrchol – gallwch danysgrifio yma.

Pan ddisgwylir tywydd gwael iawn neu pan fyddwn yn profi cyfnod arbennig o hir o dywydd oer, rhewllyd, byddwn yn rhoi’r manylion diweddaraf i chi o ran lle i gael gwybodaeth gan gynnwys casgliadau bin a manylion am ysgolion sydd wedi cau, drwy’r blog hwn, ein gwefan www.wrecsam.gov.uk a’n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol felly cadwch lygad arnyn nhw.

???? Cofiwch wirio eich cerbyd cyn mynd allan yn ystod tywydd gwael neu cyn i’r tywydd gwael gyrraedd. Mae gan y Swyddfa Dywydd gyngor ardderchog (dolen gyswllt i wefan Saesnegi) ond cofiwch adael rhagor o amser ar gyfer eich taith ac arhoswch yn ddiogel.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym mor barod ag a allwn fod ac mae gyrwyr wedi bod yn gwirio eu llwybrau graeanu eisoes i sicrhau eu bod yn ymwybodol o unrhyw broblemau posibl. Rydym yn gwerthfawrogi’r gwasanaeth hwn a rydym am sicrhau bod pawb yn gallu dal i symud yn ystod tywydd gwael, sy’n hanfodol i’r economi leol. Cymerwch ofal ychwanegol yn ystod y gaeaf a gwyliwch am rybuddion a chyngor tywydd, a chymerwch yr holl gamau angenrheidiol.”

“Helpu lle gallwch”


Dylech hefyd gadw golwg ar eich perthnasau hŷn neu gymdogion diamddiffyn. Gall tywydd gwael olygu eu bod yn wynebu anawsterau mwy wrth gyflawni tasgau sylfaenol bob dydd fel mynd i’r siop neu swyddfa’r post. Ceisiwch gynnig help lle gallwch – gallai wneud gwahaniaeth i rywun na all fynd allan ar eu pen eu hunain.

Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Rydym i gyd yn ei chael yn anodd defnyddio cludiant a chyflawni tasgau dyddiol yn ystod tywydd gwael felly dychmygwch sut mae hi i rywun nad yw’n gallu symud yn dda ac sy’n methu mynd allan o gwbl. Gallech wneud gwahaniaeth mawr i rywun drwy helpu gyda siopa, mynd â phryd o fwyd poeth iddynt neu dim ond alw am sgwrs.”

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Dod yn gymuned gyfeillgar i ddementia - Holt Dod yn gymuned gyfeillgar i ddementia – Holt
Erthygl nesaf Dysgwch sut i ddarganfod y straeon cudd y tu ôl i wrthrychau canoloesol... Dysgwch sut i ddarganfod y straeon cudd y tu ôl i wrthrychau canoloesol…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lle Y cyngor
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Pobl a lle

Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Medi 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English