Wrth i’r olaf o wyliau banc y gwanwyn a’r haf agosáu, mae’n bosib y bydd llawer ohonoch yn meddwl galw yn y dref am ddiod gyda theulu neu ffrindiau – wedi’r cyfan fydd na ddim gŵyl banc arall tan y Nadolig.
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Mae’r tafarndai’n edrych ymlaen yn fawr at eich gweld chi ond mae’n rhaid iddyn nhw wneud pethau’n wahanol iawn ar hyn o bryd, felly cynlluniwch ymlaen llaw a:
- Bwciwch ymlaen llaw – mae llawer o fusnesau rŵan yn gofyn i bobl drefnu eu hymweliad ymlaen llaw er mwyn iddynt allu rheoli niferoedd yn gywir ac yn ddiogel. Holwch nhw a oes angen bwcio ymlaen llaw er mwyn osgoi siom neu giwio.
- Arhoswch 2 fetr ar wahân os oes rhaid i chi giwio i fynd i mewn i rywle. Ystyriwch fynd i dafarn arall lle nad oes ciw, neu byddwch yn amyneddgar
- Ewch â gorchudd wyneb efo chi os ydych yn bwriadu mynd adref mewn tacsi – mae’n rhaid gwisgo un ar bob siwrnai mewn tacsi erbyn hyne for all taxi journeys
- Rhowch fanylion cyswllt cywir. Os bydd unrhyw eiddo’n cael ei adnabod fel un y bu rhywun sydd wedi profi’n bositif am y Coronafeirws ynddo bydd yn golygu y gall y timau Profi, Olrhain a Diogelu gysylltu â chi’n gyflym
Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Diogelu’r Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “ Mae’n hanfodol bwysig ein bod ni i gyd yn aros yn wyliadwrus, mae Covid-19 yn dal efo ni ac mae’n rhaid i ni i gyd ddilyn y canllawiau er mwyn cadw Wrecsam yn ddiogel.
“Mae’r rhyddid sydd gennym rŵan wedi dod ar ôl ymdrech galed; mae llawer o bobl wedi marw ac mae’n bwysig nad ydym yn aberthu’r hyn yr ydym wedi’i wneud hyd yma. Fyddai gorfod cyhoeddi cyfnod clo arall o fantais i neb.
“Cofiwch mai cadw pellter cymdeithasol a hylendid dwylo yw’r pethau mwyaf pwysig i atal lledaeniad y feirws hwn ac fe ddylent ddod yn rhan o’n hymddygiad arferol wrth i’r hydref agosáu.”
Hyd yn hyn mae heddlu ardaloedd gwledig a chanol tref Wrecsam a’n staff trwyddedu yn dweud fod deiliad trwydded ar y cyfan yn gwneud gwaith gwych wrth reoli cwsmeriaid a staff a’u cadw nhw’n ddiogel ond nid yw hynny’n golygu bod y feirws wedi mynd. Dydi’r feirws ddim wedi mynd, ac er mwyn osgoi dod i gysylltiad ag o neu ei roi o i rywun arall cymerwch bob gofal i osgoi trosglwyddiad pellach.
Gallwch wneud hyn drwy gynllunio eich noson allan yn ofalus er mwyn i chi allu mwynhau eich hunan.
Cofiwch fod y mesurau i gyd yn eu lle i atal lledaeniad y Coronafeirws ac rydym wirioneddol angen eich help chi i Gadw Wrecsam yn Ddiogel.
YMGEISIWCH RŴAN