A yw eich plentyn yn hoff o adeiladu gyda Lego?
Beth am eu hannog i ymarfer gyda meistr Lego!
Fe fydd Steve Guinness, enillydd rhaglen ‘Lego Masters’ Channel 4, yn ymweld â Llyfrgelloedd Wrecsam a’r Rhos yr hanner tymor hwn gan osod heriau adeiladu creadigol. Bydd hefyd yn rhoi pecyn bach i’ch plant gludo adref gyda nhw fel y gallant adeiladu llyfr a phensel wedi ei wneud o Lego.
Fe fydd y sesiynau hyn yn rhad ac am ddim ac maent yn rhan o ddathliadau hanner can mlwyddiant Llyfrgell Wrecsam ac fe fyddant ar gael ar yr amseroedd canlynol:
Dydd Mercher, Tachwedd 2
Llyfrgell Rhos
Oed: 4+
10.30am, 12pm, 1.30pm a 3pm
Mae archebu lle yn hanfodol – ffoniwch 01978 840328
Dydd Iau, Tachwedd 3
Llyfrgell Wrecsam
Oed: 4+
10.30am, 12pm, 1.30pm a 3pm
Mae archebu lle yn hanfodol – ffoniwch 01978 292090
Mae’r sesiynau yn rhad ac am ddim gan eu bod yn cael eu hariannu’n llawn gan Ddysgu Oedolion yn y Gymuned Gogledd Ddwyrain Cymru.
Mae rhagor o wybodaeth am hanner can mlwyddiant y llyfrgell ar gael yn yr erthygl flog hon: 6 ffaith nad oeddech chi’n eu gwybod am adeilad Llyfrgell Wrecsam.
Ydych chi wedi derbyn llythyr/ffurflen ynglŷn â’r gofrestr etholiadol?
PARATOWCH I BLEIDLEISIO