Cymerwyd meddiant ar ddegau o filoedd o sigarennau ddydd Llun 14 Chwefror wedi nifer o ymweliadau dirybudd â busnesau yn y dref.
Cynhaliwyd ymweliadau tebyg ym mis Medi’r llynedd ac mae’r holl waith yn rhan o Ymgyrch Cece a gynhelir gydag arian gan Gyllid a Thollau.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Yn cynorthwyo Swyddogion Safonau Masnach o Wasanaeth Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor oedd swyddogion Heddlu Gogledd Cymru yn ogystal â chŵn a hyfforddwyd yn benodol i ddod o hyd i dybaco. Daethpwyd o hyd i dybaco anghyfreithlon mewn amryw fannau, gan gynnwys mewn bŵt car wedi parcio gerllaw ac mewn uned storio.
Meddai Swyddog Arweiniol Safonau Masnach a Thrwyddedu’r Cyngor, Roger Mapleson, “Mae ysmygu’n lladd tua pum mil a hanner o bobl yng Nghymru bob blwyddyn. Dyma beth ydi’r achos mwyaf o bobl yn marw cyn pryd yn y wlad yma; mae’n creu gofid aruthrol i bobl ac yn rhoi pwysau mawr ar y gwasanaeth iechyd.
“Fe fyddwn ni bob tro’n erlyn pobl sy’n delio mewn tybaco anghyfreithlon”
“Mae tybaco anghyfreithlon fel arfer tua hanner pris y cynnyrch swyddogol, ac mae’n cael ei werthu yn ein cymunedau lleol. Mae’n rhad ac yn hawdd cael gafael arno, ac felly mae’n haws i blant ddechrau ysmygu a dod yn gaeth iddo a hefyd yn ei gwneud yn anoddach i bobl roi’r gorau iddi.
“Rydyn ni’n dal i ymchwilio i’r cynnyrch y daethon ni o hyd iddo, a byddwn yn erlyn pwy bynnag sy’n gyfrifol am ddelio mewn tybaco anghyfreithlon.”
Yn ddiweddar fe lansiodd Llywodraeth Cymru ymgyrch fawr i godi ymwybyddiaeth o beryglon tybaco anghyfreithlon. Darllenwch fwy am yr ymgyrch ar wefan Dim Esgus. Byth.
Gall pobl wneud gwahaniaeth go iawn yn y frwydr i fynd i’r afael â thybaco anghyfreithlon drwy roi gwybod i’r awdurdodau, naill ai drwy wefan Dim Esgus. Byth neu drwy ffonio Taclo’r Tacle ar 0800 555111.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL