Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae MYFYRIWR wedi cychwyn ar yrfa yn y diwydiant adeiladu ar ôl cyfarfod ei gyflogwyr newydd ar gwrs Sgiliau Adeiladu Traddodiadol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Mae MYFYRIWR wedi cychwyn ar yrfa yn y diwydiant adeiladu ar ôl cyfarfod ei gyflogwyr newydd ar gwrs Sgiliau Adeiladu Traddodiadol
Busnes ac addysg

Mae MYFYRIWR wedi cychwyn ar yrfa yn y diwydiant adeiladu ar ôl cyfarfod ei gyflogwyr newydd ar gwrs Sgiliau Adeiladu Traddodiadol

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 15, 2021 2:31 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Mae MYFYRIWR wedi cychwyn ar yrfa yn y diwydiant adeiladu ar ôl cyfarfod ei gyflogwyr newydd ar gwrs Sgiliau Adeiladu Traddodiadol
RHANNU

Ymunodd Drew Davies â  Semper Plastering fel prentis ar ôl gwneud argraff dda arnyn nhw pan oedd o ar gwrs Sgiliau Adeiladu Traddodiadol yng Ngholeg Cambria.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Wedi’u trefnu gan Gyngor Wrecsam a’u cynnal yn safle’r Cyngor yn Ffordd y Bers, mae’r cyrsiau’n cael eu darparu am ddim drwy Raglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol Wrecsam. Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid gan Asiantaeth Datblygu Gwledig Cadwyn Clwyd drwy Raglen Datblygu Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, sy’n cael ei ariannu drwy’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Mae Drew,  sy’n 19 oed ac yn gyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Rhosnesni, newydd gwblhau NVQ Lefel 1 mewn Plastro ac mae o wrth ei fodd i fod yn  ymuno â’r tîm.

Meddai: “Roeddwn i wedi gwirioni pan wnaethon nhw gynnig lle i mi. Dwi wir yn mwynhau plastro a dwi’n ddiolchgar iawn iddyn nhw am roi’r cyfle hwn i mi.

“Mi fyddai’n dal i allu dilyn y cwrs NVQ Lefel 2 yng Ngholeg Cambria ar yr un pryd ag ennill profiad fel rhan o dîm Semper Plastering, felly mae hyn yn newyddion gwych.”

Ychwanegodd Chad Davies, darlithydd mewn plastro yn safle Ffordd y Bers: “Mae Drew wedi rhagori ar y cwrs yma yng Nghambria a dyna pam y gwnaethon ni ei annog i ymuno â’r rhaglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol.

“Oherwydd bod ‘na bobl busnes ar y cwrs, roedd yn gyfle iddo ddangos ei sgiliau iddyn nhw, ac mae’n amlwg ei fod o wedi gwneud argraff.

“Cynigiodd Semper Plastering brofiad gwaith iddo ac yn dilyn hynny cafodd brentisiaeth efo nhw, a da’ ni wrth ein bodd drosto fo. Mae’r diwydiant adeiladu yn hynod o brysur ar hyn o bryd ac mae’n bwysig meithrin y genhedlaeth nesaf o blastrwyr a dysgu sgiliau traddodiadol ochr yn ochr â dulliau adeiladu modern.”

Mae’r Rhaglen Sgiliau Adeiladu Modern yn rhan o raglen adfywio’r cyngor, sef y Cynllun Treftadaeth Treflun, sy’n sicrhau bod sgiliau adeiladu traddodiadol yn cael eu defnyddio i adfywio adeiladau a godwyd cyn 1919 yn yr hen ran o Ganol Tref Wrecsam.

Dywedodd Janine Beggan, sy’n rhedeg y rhaglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol:  “Mae’n wych gweld myfyrwyr yn dysgu sgiliau adeiladu traddodiadol gwerthfawr ac yna’n defnyddio eu harbenigedd newydd yn y gweithle.

“Mae’r diwydiant adeiladu’n ffynnu ac mae plastro wedi dod yn alwedigaeth fwy proffidiol; fodd bynnag yma yng Ngogledd Cymru mae prinder gweithwyr adeiladu medrus a nod y rhaglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol yw newid hyn.  Mae cyflogau yng Nghymru a Lloegr wedi cynyddu 20% dros y 12 mis diwethaf oherwydd y twf mawr mewn gwaith gwella cartrefi a gwerthiannau tai.

“Byddwn yn rhedeg cyfres o gyrsiau sgiliau traddodiadol drwy gydol y flwyddyn ac os oes gennych ddiddordeb rwy’n eich annog i gysylltu.”

Dyma’r cyrsiau a fydd yn cael eu cynnig dros yr ychydig fisoedd nesaf:

  • Tamp mewn hen adeiladau 23 Gorffennaf
  • Prisio Cadwraeth 9 Awst
  • Morter calch poeth – lefel uwch 18 Mehefin a 15 Gorffennaf
  • Gwaith cerrig a glanhau 16 Gorffennaf
  • Gorchuddion to a chaeadau plwm 1 Gorffennaf
  • Ffenestri Codi Pren 6 Awst
  • Pren a phydru 9 Gorffennaf
  • Cymhwyster Achrededig Lefel 3 mewn Ynni ac Effeithlonrwydd 29 a 30 Gorffennaf

I gael rhagor o wybodaeth am y gyfres o raglenni Sgiliau Adeiladu Traddodiadol gyda Chyngor Wrecsam cysylltwch â’r tîm ar: TBS@Wrexham.gov.uk

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://llyw.cymru/cyfyngiadau-cyfredol “] Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Freedom Leisure “Mor braf bod yn ôl” – Freedom Leisure yn brysur ar ôl y cyfnod clo
Erthygl nesaf Local places for nature Mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ôl ????

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

the longest yarn
Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 29, 2026
Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg
Medi 29, 2026
Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam
Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam
Pobl a lle
Medi 29, 2026
Dal dwylo
Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?
Arall Pobl a lle
Medi 29, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cystadleuaeth Dylunio Cymeriad
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Lansio cystadleuaeth gelf i blant wrth i ddathliadau’r Flwyddyn o Ryfeddod barhau

Medi 29, 2026
Ysgol I D Hooson
Busnes ac addysg

Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol

Medi 25, 2026
All Saints School Library Opening
Busnes ac addysgPobl a lle

Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd

Medi 23, 2026
Gallai'r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Gallai’r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 18, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English