Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mynediad cyfyngedig at Lwybr Clawdd Offa mewn ardaloedd sy’n destun cyfyngiadau symud lleol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Mynediad cyfyngedig at Lwybr Clawdd Offa mewn ardaloedd sy’n destun cyfyngiadau symud lleol
Pobl a lleY cyngor

Mynediad cyfyngedig at Lwybr Clawdd Offa mewn ardaloedd sy’n destun cyfyngiadau symud lleol

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 12, 2020 10:41 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Offa's Dyke
RHANNU

Sylwch fod cyfyngiadau symud oherwydd y coronafeirws yng Nghymru yn wahanol i’r rhai yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Cynnwys
  • Ymweld â’r llwybr yn ddiogel
  • Cynlluniwch o flaen llaw

Er bod Llwybr Clawdd Offa ar agor yn ei gyfanrwydd yn unol â chanllawiau a rheoliadau Llywodraeth Cymru, ar hyn o bryd mae cyfyngiadau symud lleol oherwydd y coronafeirws (COVID 19) ar waith gan Lywodraeth Cymru sy’n cyfyngu ar fynediad at y llwybr.

Mae’n anghyfreithlon mynd i mewn i ardal awdurdod lleol neu ei gadael (a elwir hefyd yn ‘ardaloedd diogelu iechyd lleol’) heb esgus rhesymol.  Nid yw cerdded ar y llwybr yn esgus rhesymol ac mae torri’r cyfyngiadau yn drosedd ddirwyadwy.

Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.

Felly, oni bai eich bod yn byw yn yr un ardal awdurdod lleol, peidiwch ag ymweld â’r rhannau hyn o’r llwybr am y tro.  Dewch yn ôl yn nes ymlaen pan fydd yn ddiogel gwneud hynny a pharhewch i ddilyn y wybodaeth ddiweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ynglŷn â’r coronafeirws a chadw eich hun ac eraill yn ddiogel.

Noder bod Llwybr Clawdd Offa yn croesi awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr. Y rhan o’r llwybr yr effeithir arni ar hyn o bryd yw:

Rhan ogleddol gyfan y llwybr o Fronygarth, ychydig i’r de o Gastell y Waun, i Brestatyn.

Mae manylion llawn y cyfyngiadau ar gael yn: https://llyw.cymru/cyfnod-clo-lleol

Mae’r ardaloedd awdurdod lleol a ganlyn ar Lwybr Clawdd Offa yn destun cyfyngiadau symud lleol (yn ôl dyddiad):

  • Cyngor Sir y Fflint (o 1 Hydref 2020 6pm GMT)
  • Cyngor Sir Ddinbych (o 1 Hydref 2020 6pm GMT)
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (o 1 Hydref 2020 6pm GMT)

Darllenwch ragor am y cyfyngiadau symud lleol sydd ar waith i bobl sy’n byw yn ardaloedd yr awdurdodau hyn.

Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon yn ôl yr angen

Ymweld â’r llwybr yn ddiogel

Dilynwch ein canllawiau i gael amser gwych wrth gerdded gan eich cadw eich hun ac eraill yn ddiogel.

Cynlluniwch o flaen llaw

  • Mae’r canllawiau ynglŷn â’r coronafeirws yng Nghymru yn wahanol i’r rhai yn Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Darllenwch y canllawiau diweddaraf yng Nghymru ynglŷn â’r coronafeirws
  • Cofiwch fynd ati o flaen llaw i wirio amseroedd agor toiledau cyhoeddus a safleoedd lluniaeth arferol ac amserlenni trafnidiaeth gyhoeddus, gan ei bod yn bosibl eu bod yn gweithredu â chapasiti llai neu ddim o gwbl.
  • Dilynwch reolau Iechyd Cyhoeddus Cymru ynglŷn â chadw pellter cymdeithasol a’i ganllawiau ar hylendid dwylo
  • Mae llety hunangynhwysol wedi bod ar agor ers 11 Gorffennaf 2020, a safleoedd gwersylla â chyfleusterau a rennir ers 25 Gorffennaf 2020. Darllenwch y canllawiau diweddaraf ar y coronafeirws i ddiwydiant twristiaeth a lletygarwch Cymru
  • Darllenwch am y gwyriadau dros dro diweddaraf i’r llwybr

Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.covid19.nhs.uk/”]Lawrlwythwch yr ap GIG[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol butchers market Ydych chi wedi ymweld â Marchnadoedd Wrecsam?
Erthygl nesaf Schools Mae ysgolion yn gweithio mor galed i gadw’ch plant yn ddiogel… cofiwch eu cefnogi nhw

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

surgery to waterloo
Cadwch y Dyddiad: 24 Medi
Digwyddiadau
Medi 16, 2026
Crematorium
Gwaith gwella wedi’i gynllunio yn Amlosgfa Pentrebychan
Y cyngor
Medi 16, 2026
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella'r adeilad.
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella’r adeilad.
Pobl a lle
Medi 16, 2026
The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Datgarboneiddio WrecsamFideo

Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)

Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam

Medi 15, 2026
Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 15, 2026
Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
Y cyngor

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy

Medi 15, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English