Mae diffyg mynediad heb risiau yn parhau i fod yn uchel ar yr agenda a thynnwyd sylw at hyn pan ddaeth Grant Shapps, Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth i’r ardal yn ddiweddar.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Gwelodd y Gweinidog drosto’i hun nad oedd mynediad i ddefnyddwyr anabl, a’r rhai gyda phramiau neu fygis neu rai gyda bagiau teithio, i’r un o’r ddau blatfform gan nad oes lifft yn yr orsaf.
Mae llawer o ddefnydd ar orsaf Rhiwabon
Mae nifer yn defnyddio’r orsaf gyda dros 102,000 o ymweliadau yn 2018/19, a thros y blynyddoedd diwethaf buddsoddwyd dros £600,000 gennym ni a’r Consortia Cludiant Rhanbarthol i ddatblygu’r orsaf yn ganolfan gludiant ac mae hynny wedi darparu mwy o arian ar gyfer parcio ceir, cyfnewidfa bws a rheilffordd, gwelliannau i gysgodfeydd, mynedfa newydd a Theledu Cylch Cyfyng.
Ond mae buddsoddiad pellach gan Lywodraeth Cymru a’r DU yn hanfodol er mwyn creu mynediad angenrheidiol at y ddau blatfform.
Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae arian y Llywodraeth yn hanfodol er mwyn dod a’r orsaf hon i’r safon y mae’r defnyddwyr yn ei haeddu. Dyma’r unig orsaf ar y rheilffordd rhwng Caer a’r Amwythig nad yw’n bodloni gofynion teithwyr ac sy’n rhan o borth mynediad i Langollen a Safle Treftadaeth y Byd ym Mhontcysyllte. Gobeithio y gwelwn fuddsoddiad yn yr ardal hon yn 2021.”
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF