Mae gan bob Llyfrgell yn Wrecsam gasgliad o lyfrau i helpu gofalwyr i gael gwybodaeth am eu rôl ofalu.
Mae’r Casgliad Gofalwyr wedi’i sefydlu i helpu’r rhai sy’n gofalu ac yn cefnogi anwyliaid gartref yn ddi-dâl.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Mae teitlau yn y casgliad yn ymdrin â phynciau sy’n amrywio o awtistiaeth a dementia i hawliau gofalwyr a’r gyfraith a buddion ac agweddau emosiynol bod yn ofalwr llawn amser. Mae yna hefyd lyfrau sy’n cynnwys cyngor ar ofalu am blant neu oedolion â chyflyrau penodol, a gofalu amdanoch eich hun fel gofalwr, ac mae rhai o’r llyfrau wedi’u hysgrifennu gan ofalwyr eu hunain sy’n rhannu eu profiadau eu hunain. Am restr lawn o’r teitlau dilynwch y ddolen hon.
Gellir benthyca llyfrau hefyd o’r llyfrgell deithiol a’r gwasanaeth Cyswllt Cartref.
I gael rhagor o wybodaeth am y Casgliad Gofalwyr, cysylltwch â Llyfrgell Wrecsam ar 01978 292090.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH