Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Nid yw’n rhy hwyr i gofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gardd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Ai dyma'r swydd i chi? Dyma ddetholiad byr o rai o’r swyddi sy’n wag ar hyn o bryd…
Ai dyma’r swydd i chi? Dyma ddetholiad byr o rai o’r swyddi sy’n wag ar hyn o bryd…
Busnes ac addysg
Terry Fox Run
Mae Ras Terry Fox yn dychwelyd
Digwyddiadau Pobl a lle
Tidy Wales Awards 2025
Gwobrau Cymru Daclus 2025 – mae’r enwebiadau nawr ar agor!
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
CBDC yn cyhoeddi Taith ‘Ein Crys Cymru’ cyn UEFA EWRO Menywod 2025
CBDC yn cyhoeddi Taith ‘Ein Crys Cymru’ cyn UEFA EWRO Menywod 2025
Digwyddiadau Pobl a lle
Pontcysyllte aqueduct
Dweud Eich Dweud yn Nyfodol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Nid yw’n rhy hwyr i gofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gardd
Y cyngor

Nid yw’n rhy hwyr i gofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gardd

Diweddarwyd diwethaf: 2025/04/03 at 11:00 AM
Rhannu
Darllen 5 funud
Green garden waste bin
RHANNU

Dechreuodd gwasanaeth casglu gwastraff gardd 2025/26 ar 1 Ebrill, ond os na wnaethoch chi gofrestru ac erbyn hyn yn edifar, cofiwch nid yw’n rhy hwyr i ymuno.

Cynnwys
Talwch ar-lein lle bo hynny’n bosiblDim sticeri binTelerau ac AmodauBeth galla i ei wneud gyda fy ngwastraff gardd os nad ydw i eisiau talu am y gwasanaeth casglu?Gallwch dderbyn gwybodaeth ac argymhellion ailgylchu yn syth i’ch mewnflwchYdych chi’n derbyn ein e-byst i’ch atgoffa am eich bin?

Mae’r tâl gwasanaeth wedi ei rewi ar £35 y bin ac yn rhedeg o’r dyddiad y byddwch chi’n cofrestru hyd at 31 Mawrth, 2026, felly mae’n well cofrestru cyn gynted â phosibl er mwyn cael y gwerth gorau. Yn syml, po gynharaf y byddwch chi’n ymuno, y mwyaf o gasgliadau y byddwch chi’n eu cael.

Talwch ar-lein lle bo hynny’n bosibl

Y ffordd hawsaf i dalu am y gwasanaeth yw ar-lein yn wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd.

Gall unrhyw breswylwyr a hoffai gael ychydig o gymorth i wneud taliad ar-lein ymweld â Galw Wrecsam yn Llyfrgell Wrecsam, neu gallwch alw heibio eich swyddfa ystâd dai leol. Rhowch wybod i’n staff eich bod am dalu am eich casgliadau gwastraff gardd a byddant yn eich helpu drwy’r broses, a gallant hyd yn oed eich helpu i greu cyfeiriad e-bost os nad oes un gennych.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Gall ffrind neu berthynas danysgrifio ar-lein ar eich rhan.

Rhaid bod gennych gyfeiriad e-bost i danysgrifio ar-lein. Os nad oes un gennych, gallwch ffonio Strydlun ar 01978 298989 i dalu â cherdyn.

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Gan fod y gwanwyn wedi cyrraedd ac mae’n dechrau mynd ychydig yn gynhesach a phobl yn defnyddio eu gerddi yn amlach, rydyn ni eisiau atgoffa preswylwyr y gallan nhw ymuno â’r cynllun casglu gwastraff gardd o hyd. Os ydych chi nawr eisiau ymuno, ewch draw i wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd a dilyn y cyfarwyddiadau i dalu am y gwasanaeth.

“Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i wneud eich taliad, gallwch gael hwn yn Galw Wrecsam yn Llyfrgell Wrecsam, neu o’r swyddfeydd ystadau tai. Hefyd gallwch ffonio Strydlun ar 01978 298989 i wneud eich taliad.”

Dim sticeri bin

Eleni ni fyddwn yn anfon sticeri bin fel rhan o’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd. Yn hytrach, byddwn yn defnyddio ein system logistaidd i nodi eiddo sydd wedi talu am y gwasanaeth diweddaraf. Rydym yn argymell i chi arddangos eich enw neu rif eich tŷ ar eich bin gwyrdd i’w gwneud hi’n haws i ni baru’ch bin yn erbyn y manylion ar ein system.

Telerau ac Amodau

Yn flaenorol rydym wedi anfon telerau ac amodau’r gwasanaeth gwastraff gardd fel rhan o’ch pecyn sticeri biniau. Gan na fyddwn bellach yn anfon sticeri bin, ni fyddwn yn anfon copïau papur o’r telerau a’r amodau.

Yn hytrach, byddwch yn gallu gweld y rhain ar-lein neu os byddai’n well gennych, gallwch gasglu copi papur mewn person o Galw Wrecsam.

Beth galla i ei wneud gyda fy ngwastraff gardd os nad ydw i eisiau talu am y gwasanaeth casglu?

Gallwch fynd â’ch gwastraff gardd i un o ganolfannau ailgylchu gwastraff y cartref (yn rhad ac am ddim). Fel arall, gallech gompostio gwastraff gardd gartref. Cymerwch olwg ar ganllaw Cymru’n Ailgylchu ar ‘Sut i sefydlu compostio gartref’ sy’n darparu gwybodaeth ddefnyddiol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd

Gallwch dderbyn gwybodaeth ac argymhellion ailgylchu yn syth i’ch mewnflwch

Os ydych yn cofrestru i dderbyn ein hysbysiadau e-bost ar Wybodaeth ac Argymhellion Ailgylchu, gallwn anfon ein straeon newyddion diweddaraf ac argymhellion i chi, er mwyn eich helpu i gael y mwyaf allan o’ch ailgylchu, cyngor lleol (gan gynnwys newidiadau sy’n effeithio arnoch chi), a manylion ar ymgyrchoedd sydd ar y gweill i chi gymryd rhan ynddynt.

Darllenwch fwy…

Ydych chi’n derbyn ein e-byst i’ch atgoffa am eich bin?

Pan fyddwch chi’n cofrestru i dderbyn y rhybuddion, fe fyddwch chi’n cael e-bost i’ch atgoffa cyn eich casgliad nesaf, ond mae hefyd yn ffordd dda i ni gysylltu â chi am unrhyw amhariadau allai effeithio ar y gwasanaeth. Os hoffech chi e-byst i’ch atgoffa am eich bin, cliciwch yma a dilynwch y ddolen i gofrestru.

Cyflwyno gwasanaeth ailgylchu podiau coffi yng nghanolfannau ailgylchu Wrecsam – Newyddion Cyngor Wrecsam

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

TAGGED: ailgylchu, biniau, bins, garden waste, gwastraff, gwastraff gardd, waste
Rhannu
Erthygl flaenorol COPA Dweud eich dweud ar ddarpariaeth newydd gyffrous ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
Erthygl nesaf Road A528: Gellid gostwng y terfyn cyflymder i helpu atal mwy o ddamweiniau ar droadau sydyn

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Ai dyma'r swydd i chi? Dyma ddetholiad byr o rai o’r swyddi sy’n wag ar hyn o bryd…
Ai dyma’r swydd i chi? Dyma ddetholiad byr o rai o’r swyddi sy’n wag ar hyn o bryd…
Busnes ac addysg Mehefin 27, 2025
Terry Fox Run
Mae Ras Terry Fox yn dychwelyd
Digwyddiadau Pobl a lle Mehefin 27, 2025
Tidy Wales Awards 2025
Gwobrau Cymru Daclus 2025 – mae’r enwebiadau nawr ar agor!
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Mehefin 27, 2025
CBDC yn cyhoeddi Taith ‘Ein Crys Cymru’ cyn UEFA EWRO Menywod 2025
CBDC yn cyhoeddi Taith ‘Ein Crys Cymru’ cyn UEFA EWRO Menywod 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Mehefin 26, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Rydyn ni'n chwifio'r faner ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Rydyn ni’n chwifio’r faner ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog

Mehefin 23, 2025
aging couple
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Heneiddio’n Dda – cewch wybod mwy ar 26 Mehefin

Mehefin 20, 2025
Adfywio treftadaeth barhaus yn cefnogi adeiladau allweddol yn Ardal Gadwraeth Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Adfywio treftadaeth barhaus yn cefnogi adeiladau allweddol yn Ardal Gadwraeth Wrecsam

Mehefin 17, 2025
Gwersyllt Community Resource Centre
Pobl a lleY cyngor

Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt – cau am bythefnos

Mehefin 16, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English