Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Nodyn briffio Covid-19 – gadewch i ni fynd yn ôl i’r ysgol a siopa’n ddiogel
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Mae cyfleoedd gwaith newydd wedi glanio – darllenwch ymlaen i ddysgu mwy!
Mae cyfleoedd gwaith newydd wedi glanio – darllenwch ymlaen i ddysgu mwy!
Busnes ac addysg
Free pre-loved school uniform shop opens in the Wellbeing Hub.
Siop gwisgoedd ysgol ail-law am ddim yn agor yn yr Hwb Lles
Busnes ac addysg Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Plastic Free July - reusable water bottle
Dewiswch ailddefnyddio a gallwch helpu’r amgylchedd
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Cwblhau prosiectau adfywio treftadaeth pellach yn ardal gadwraeth Canol Dinas Wrecsam
Cwblhau prosiectau adfywio treftadaeth pellach yn ardal gadwraeth Canol Dinas Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Mae Adran Dai Cyngor Wrecsam wedi ychwanegu 11 cerbyd trydan newydd at ei fflyd
Mae Adran Dai Cyngor Wrecsam wedi ychwanegu 11 cerbyd trydan newydd at ei fflyd
Arall
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Nodyn briffio Covid-19 – gadewch i ni fynd yn ôl i’r ysgol a siopa’n ddiogel
ArallY cyngor

Nodyn briffio Covid-19 – gadewch i ni fynd yn ôl i’r ysgol a siopa’n ddiogel

Diweddarwyd diwethaf: 2021/04/15 at 11:07 AM
Rhannu
Darllen 8 funud
Covid-19
RHANNU

Byddwn yn gweld newidiadau pellach yn ystod yr ychydig ddyddiau nesaf, wrth i’r cyfyngiadau barhau i gael eu codi’n ofalus yng Nghymru.

Cynnwys
Nôl i’r YsgolSiopa yn WrecsamPrif ddyddiadau a newidiadauCyfyngiadau yng Nghymru a LloegrY Coronafeirws yn eich ardal chiY wybodaeth ddiweddaraf ar frechuYn 65 oed+?Yn 50-64 oed?Yn 40-49 oed?Gyda symptomau neu wedi eich adnabod fel ‘cyswllt’?Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol

Ar ôl misoedd o gyfnod clo caeth, mae’n deimlad gwych gallu gwneud mwy o’r pethau yr oeddem yn arfer eu gwneud (ac o bosibl yn eu cymryd yn ganiataol). Ond rydym angen cadw’n ddiogel a gwneud pethau’n ofalus.

Rydym eisiau diolch i bawb yn Wrecsam am eu hymdrechion i frwydro’r feirws. Mae wedi bod yn aeaf caled ac mae’n braf croesawu’r haf a gallwn i gyd deimlo’n fwy cadarnhaol.

Ond rydym angen parhau i weithio gyda’n gilydd i gadw Wrecsam yn ddiogel.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Mae yna ddau newid mawr yr wythnos nesaf sy’n ymwneud ag ysgolion a siopau dianghenraid…

Nôl i’r Ysgol

Bydd ysgolion yn Wrecsam a gweddill Cymru yn ailagor i holl blant – cynradd ac uwchradd – dydd Llun yma, 12 Ebrill.

Bydd rhai ysgolion yn cynnwys dyddiau hyfforddi athrawon yr wythnos nesaf, ond byddwn yn gadael i rieni wybod os mai dyma sy’n digwydd.

Os ydych yn rhiant, peidiwch â rhannu ceir os gwelwch yn dda a pheidiwch ag aros o gwmpas giatiau’r ysgol.

Gall y ddau beth syml yma wneud gwahaniaeth mawr.

Nodyn briffio Covid-19 – gadewch i ni fynd yn ôl i’r ysgol a siopa’n ddiogel

Siopa yn Wrecsam

Bydd canol tref Wrecsam yn ail-agor ar gyfer siopa dianghenraid dydd Llun yma.

Mae hyn yn cynnwys y Farchnad awyr agored ar ddydd Llun, y marchnadoedd Cyffredinol a’r Cigyddion dan do a’r farchnad a’r safle bwyd (bwyd i fynd yn unig) yn Tŷ Pawb.

Pan fyddwch yn dod i’r dref i gefnogi busnesau lleol, cofiwch gadw pellter cymdeithasol os gwelwch yn dda, defnyddiwch yr hylif diheintio mewn siopau a gwisgwch fasg wyneb oni bai eich bod wedi eich eithrio.

Bydd ein cefnogwyr cadw pellter cymdeithasol o amgylch y lle yn darparu cymorth.

Heblaw am y maes parcio aml-lawr yn Tŷ Pawb, mae pob maes parcio a reolir gan y cyngor yng nghanol y dref am ddim ar ôl 11am (er bod cyfyngiadau amser yn parhau’n berthnasol mewn meysydd parcio arhosiad byr).

Masnachwyr yn barod i groesawu ymwelwyr yn ôl i ganol y dref

Prif ddyddiadau a newidiadau

Dyma grynodeb byr o brif newidiadau yn Wrecsam dros yr ychydig ddyddiau nesaf…

Dydd Sadwrn, 10 Ebrill

• Dim angen archebu ar benwythnos mwyach yng Nghanolfan Ailgylchu Brymbo.

Dydd Llun, 12 Ebrill

• Holl blant yn ôl yn yr ysgol.
• Canol tref Wrecsam yn ailagor ar gyfer manwerthu dianghenraid.
• Man ymgynnull Gorsaf Bws Wrecsam yn ailagor (yn unol â mwy o wasanaethau bws ar rai ffyrdd).
• Toiledau cyhoeddus yn yr orsaf bws yn ailagor (toiledau ar Stryd Henblas hefyd yn parhau’n agored).
• Teithio trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr yn cael ei ganiatáu ar gyfer rhesymau dianghenraid.

Neithiwr, roedd Llywodraeth Cymru hefyd wedi cadarnhau y bydd rhai newidiadau eraill a drefnwyd yn cael eu dygwyl ymlaen.

Bydd dyddiad agor a drefnwyd ar gyfer gweithgareddau awyr agored a drefnwyd a derbyniadau priodas awyr agored yn cael eu dygwyl ymlaen i ddydd Llun, 26 Ebrill (yn lle 3 Mai).

Ac o ddydd Llun, 3 Mai – wythnos yn gynt nag yn flaenorol – bydd campfeydd, canolfannau hamdden a chyfleusterau ffitrwydd yn gallu ailagor ar gyfer hyfforddiant unigol neu un i un. Bydd Aelwydydd Estynedig yn cael eu caniatáu eto, gan alluogi dwy aelwyd i gwrdd a chael cyswllt dan do.

Wrth i ni parhau i godi rhai cyfyngiadau, parhewch i ddilyn y pethau syml yma ????

➡️ https://t.co/2xVIMY7e94

— Llywodraeth Cymru (@LlywodraethCym) April 6, 2021

Cyfyngiadau yng Nghymru a Lloegr

O ddydd Llun, 12 Ebrill, byddwch yn gallu teithio i mewn ac allan o Gymru – ar draws ffin Cymru-Lloegr – heb gyfyngiadau.

Bydd rhai pethau yr un fath ar y ddwy ochr o’r ffin. Er enghraifft, bydd siopau dianghenraid yn ailagor yng Nghymru a Lloegr.

Ond bydd rhai pethau yn wahanol, ac mae’n werth eu nodi i osgoi dryswch.

Y ddau wahaniaeth mwyaf amlwg yw:

• Bydd campfeydd a chanolfannau hamdden yn Lloegr yn ailagor, ond yn parhau ar gau am y tro yng Nghymru.
• Bydd tafarndai a bwytai yn Lloegr yn gallu gweini bwyd ac alcohol yn yr awyr agored, ond byddant yn parhau ynghau am nawr yng Nghymru.

Os byddwch yn teithio dros y ffin, gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y rheolau yng Nghymru a Lloegr.

Y Coronafeirws yn eich ardal chi

Mae Wrecsam nawr yn seithfed yng Nghymru, gyda 22.1 achos fesul 100k o’r boblogaeth ar sail dreigl saith diwrnod.

Os ydych am weld ffigurau eich ardal chi, ewch i ddangosfwrdd data Iechyd Cyhoeddus Cymru, a chliciwch ar y tab ‘MSOA’.

Y wybodaeth ddiweddaraf ar frechu

Mae bron hanner miliwn o frechlynnau wedi eu gweinyddu yng Ngogledd Cymru.

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae’r drefn cyflwyno’r frechlyn wedi canolbwyntio ar gynnig dos cyntaf i bobl mewn Grwpiau Blaenoriaeth (50+ neu 16+ gyda chyflyrau iechyd), ac mae’r bwrdd iechyd yn benderfynol nad yw am adael unrhyw un ar ôl.

Yn 65 oed+?

Os ydych yn y Grwpiau Blaenoriaeth 1-5 (65+ neu’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol) ac nad ydych wedi gallu mynychu apwyntiad eto, yna ffoniwch Ganolfan Gyswllt Brechlyn Covid-19 ar 03000 840004.

Yn 50-64 oed?

Os ydych yn y Grwpiau Blaenoriaeth 6-9 (50-64 oed) ac wedi methu mynychu apwyntiad eto, bydd y bwrdd iechyd mewn cysylltiad i gynnig un arall i chi.

Byddwch yn amyneddgar os gwelwch yn dda a pheidiwch â chysylltu â’ch meddyg teulu na’r Ganolfan Gyswllt Brechlyn Covid-19 oni bai eich bod angen canslo neu newid apwyntiad presennol.

Yn 40-49 oed?

Mae gwahoddiadau nawr yn dechrau mynd allan i bobl yn eu pedwar degau, wrth i’r GIG weithio tuag at frechu gweddill y boblogaeth oedolion cyn diwedd Gorffennaf.

Gallwch ddarllen mwy am y rhaglen frechu yng Ngogledd Cymru ar wefan y bwrdd iechyd lleol.

Gyda symptomau neu wedi eich adnabod fel ‘cyswllt’?

Os oes gennych symptomau coronafeirws – neu eich bod wedi eich adnabod fel ‘cyswllt’ gan y gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu – gwnewch yn siŵr eich bod yn hunan-ynysu ac yn cael prawf.

Gallai fod y peth pwysicaf i chi ei wneud erioed.

Darllenwch fwy ar wefan Llywodraeth Cymru.

Os oes gennych unrhyw symptomau coronafeirws, hunanynyswch ar unwaith a threfnwch brawf.

Peidiwch â galw heibio'r siop na mynd i'r gwaith. Arhoswch adref i ddiogelu eraill.

➡️ https://t.co/aDEL5UleG9 pic.twitter.com/pLODmx4gnv

— Llywodraeth Cymru (@LlywodraethCym) April 8, 2021

Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol

  • Gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â brechu (Gogledd Cymru)
  • Gwefan Llywodraeth Cymru – Cwestiynau Cyffredin am gyfyngiadau presennol yng Nghymru
  • Gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru – datganiadau rheolaidd

Rhannu
Erthygl flaenorol Prince Philip Neges gan Maer Wrecsam, y Cynghorydd Rob Walsh
Erthygl nesaf Free Parking in Wrexham Peidiwch ag anghofio bod meysydd parcio yng nghanol trefi’r Cyngor am ddim ar ôl 11am ar wahân i Tŷ Pawb

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae cyfleoedd gwaith newydd wedi glanio – darllenwch ymlaen i ddysgu mwy!
Mae cyfleoedd gwaith newydd wedi glanio – darllenwch ymlaen i ddysgu mwy!
Busnes ac addysg Gorffennaf 25, 2025
Free pre-loved school uniform shop opens in the Wellbeing Hub.
Siop gwisgoedd ysgol ail-law am ddim yn agor yn yr Hwb Lles
Busnes ac addysg Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Gorffennaf 25, 2025
Plastic Free July - reusable water bottle
Dewiswch ailddefnyddio a gallwch helpu’r amgylchedd
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Gorffennaf 25, 2025
Cwblhau prosiectau adfywio treftadaeth pellach yn ardal gadwraeth Canol Dinas Wrecsam
Cwblhau prosiectau adfywio treftadaeth pellach yn ardal gadwraeth Canol Dinas Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor Gorffennaf 25, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cwblhau prosiectau adfywio treftadaeth pellach yn ardal gadwraeth Canol Dinas Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cwblhau prosiectau adfywio treftadaeth pellach yn ardal gadwraeth Canol Dinas Wrecsam

Gorffennaf 25, 2025
Pwerdy diwydiannau creadigol yn agor cyn bo hir yn yr Hen Lyfrgell
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Pwerdy diwydiannau creadigol yn agor cyn bo hir yn yr Hen Lyfrgell

Gorffennaf 24, 2025
Cronfa Gwaddol Ieuenctid yn buddsoddi £3.5 miliwn o ddiogelu plant rhag camdriniaeth ac esgeulustod
Pobl a lleY cyngor

Cronfa Gwaddol Ieuenctid yn buddsoddi £3.5 miliwn o ddiogelu plant rhag camdriniaeth ac esgeulustod

Gorffennaf 23, 2025
Pentref Wrecsam – Cornel Wrecsam ar y Maes 
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Pentref Wrecsam – Cornel Wrecsam ar y Maes 

Gorffennaf 23, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English