Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen “Pa blastig dwi’n gallu ei ailgylchu yn Wrecsam?” Dysgwch fwy yma…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor
Lucy Cowley
Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni
Digwyddiadau Pobl a lle
Jayne Bryant
Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m
Busnes ac addysg Pobl a lle
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Eisteddfod Wrecsam 2025
Eisteddfod Wrecsam 2025!
Digwyddiadau Fideo
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > “Pa blastig dwi’n gallu ei ailgylchu yn Wrecsam?” Dysgwch fwy yma…
Y cyngor

“Pa blastig dwi’n gallu ei ailgylchu yn Wrecsam?” Dysgwch fwy yma…

Diweddarwyd diwethaf: 2019/06/28 at 11:16 AM
Rhannu
Darllen 5 funud
Plastic Recycling Bottles
RHANNU

Mae yna lawer iawn o wahanol fathau o blastig, felly mae’n naturiol i rywun ddrysu a chwestiynu ei hun weithiau “ynglŷn â pha blastig dwi’n gallu ei ailgylchu?”

Cynnwys
Pa blastig sy’n bosib ei ailgylchu yn fy min ailgylchu?“Mae pobl eisiau mynd cam ymhellach”Pa blastig sy’n amhosib ei ailgylchu yn fy min ailgylchu?Ydw i’n gallu ailgylchu plastig o’r ardd?Y siop ail-ddefnyddio

Y newyddion da yn Wrecsam yw bod modd ailgylchu llawer o gynwysyddion plastig… a gellir ailgylchu llawer o’r rhain yn eich bin ailgylchu chi 🙂

Pa blastig sy’n bosib ei ailgylchu yn fy min ailgylchu?

Yr ateb syml yw ei bod yn bosib ailgylchu UNRHYW fath o boteli plastig, POB math o hambyrddau bwyd plastig, tybiau plastig a photiau plastig yn eich bin ailgylchu yn Wrecsam. Drwy gadw’r uchod mewn cof dylech fod yn iawn 🙂

EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Ond i’ch helpu chi ddeall pethau fymryn yn well, rydym am roi enghreifftiau i chi o’r mathau o eitemau tŷ y gellir eu hailgylchu. Sef….

• Potiau iogwrt
• Tybiau menyn/margarîn
• Hambyrddau prydau parod
• Poteli siampŵ
• Poteli sebon cawod
• Poteli sylweddau glanhau ceginau/ystafelloedd ymolchi (yn cynnwys y rhai sy’n chwistrellu)
• Basgedi ffrwythau (ond nid y ffilm na’r papur swigod)
• Cynwysyddion clir sy’n dal bwyd Tsieineaidd/Indiaidd
• Poteli ysgytlaeth
• Hambyrddau cig
• Tybiau hufen iâ
• Tybiau siocled mawr (Quality Street, Celebrations ac ati)

Gofalwch eu bod nhw’n lân a heb unrhyw fwyd neu ddiod ynddyn nhw pan fyddwch yn eu hailgylchu 🙂

Ffeithiau am ailgylchu: Cofiwch olchi unrhyw ddeunydd ailgylchu er mwyn osgoi halogi deunydd ailgylchu glân a gasglwyd yn barod gan y cerbyd ailgylchu. pic.twitter.com/MjLRNWBzt5

— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) March 5, 2019

“Mae pobl eisiau mynd cam ymhellach”

Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Mae’n bwysig sylweddoli y gallwch ailgylchu llwyth o blastig tŷ yn eich bin ailgylchu yn Wrecsam. Mae hynny’n cynnwys pethau na fyddech o bosib yn eu hystyried fel poteli siampŵ, poteli sylweddau glanhau, potiau iogwrt a thybiau margarîn.

“Gwyddwn fod mwy o bobl yn ceisio gwneud eu rhan yn Wrecsam a’r hyn sy’n wych yw bod pobl eisiau gwneud hyd yn oed mwy. Dyma sy’n mynd i’n helpu ni gyrraedd ein targed ailgylchu o 70% erbyn 2025.”

Pa blastig sy’n amhosib ei ailgylchu yn fy min ailgylchu?

Y pethau mwyaf cyffredin y mae pobl yn ceisio eu hailgylchu ond sydd ddim yn bosib ar hyn o bryd yn eich bin ailgylchu yw pob mathau o fagiau bwyd plastig, pob mathau o fagiau siopa plastig, ffilm cydio, papur swigod a phacedi creision.

Hefyd ni allwn dderbyn unrhyw eitemau polystyren, plastig caled (gellir ailgylchu’r rhain yn ein canolfannau ailgylchu), teganau, tupperware, papurau fferins, tiwbiau past dannedd, raseli plastig, cytleri plastig neu becynnau reis ar gyfer y ficrodon.

Ydw i’n gallu ailgylchu plastig o’r ardd?

Ni ellir ailgylchu plastig caled o’ch gardd yn eich bin ailgylchu ar hyn o bryd, fel potiau planhigion, ond gallwch eu hailgylchu yn ein tair canolfan ailgylchu yn Wrecsam.

Gellir ailgylchu eitemau plastig caled eraill fel cytleri plastig neu gloriau CD/DVD yma.

Mae ein canolfannau ailgylchu i’w cael yn y lleoliadau canlynol:
• Lôn y Bryn, Ystad Ddiwydiannol Wrecsam
• Y Porthdy, Brymbo
• Banc Wynnstay, Plas Madoc

Y siop ail-ddefnyddio

Os ydych yn edrych i gael gwared ar blastig fel dodrefn gardd neu deganau a’u bod nhw mewn cyflwr da, dylech ystyried eu rhoi nhw i’n siop ail-ddefnyddio yng nghanolfan ailgylchu Lôn y Bryn…yn ogystal ag ailgylchu’r eitemau byddwch yn helpu elusen leol wych hefyd.

Hosbis Tŷ’r Eos sydd yn rhedeg y siop ac mae gan ein tair canolfan ailgylchu ardaloedd wedi’u neilltuo i bobl gyfrannu eitemau…os ydych yn ansicr lle mae’r ardaloedd hyn yna gofynnwch i un o’n gweithwyr ac mi fydda nhw’n siŵr o’ch cyfeirio at y lle cywir 🙂

Y gobaith yw eich bod yn deall ychydig bach mwy am ailgylchu plastig yn Wrecsam a’ch bod yn gallu bod yn hyd yn oed yn fwy o arwr ailgylchu 🙂

Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…

COFRESTRU

Rhannu
Erthygl flaenorol Ai chi yw’r un ar gyfer y rôl hon? Ai chi yw’r un ar gyfer y rôl hon?
Erthygl nesaf Arriva Wales Diweddariad 28.06.19 – Gwaith ar gylchfan Gresffordd – Newidiadau i wasanaeth rhif 1 Bysiau Arriva Cymru

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor Awst 7, 2025
Lucy Cowley
Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 6, 2025
Jayne Bryant
Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m
Busnes ac addysg Pobl a lle Awst 5, 2025
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor Awst 5, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Road maintenance
ArallY cyngor

Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall

Awst 7, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 5, 2025
Adult holding a child's hand
DigwyddiadauY cyngor

Galwad o’r newydd am fabwysiadwyr Cymraeg eu hiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Awst 1, 2025
Cwblhau prosiectau adfywio treftadaeth pellach yn ardal gadwraeth Canol Dinas Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cwblhau prosiectau adfywio treftadaeth pellach yn ardal gadwraeth Canol Dinas Wrecsam

Gorffennaf 25, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English