Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Pêl Droed yw’r canolbwynt wrth i’r Cyngor Chwaraeon ddyrannu £100,000 ar gyfer gwelliannau
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Pêl Droed yw’r canolbwynt wrth i’r Cyngor Chwaraeon ddyrannu £100,000 ar gyfer gwelliannau
Pobl a lleY cyngor

Pêl Droed yw’r canolbwynt wrth i’r Cyngor Chwaraeon ddyrannu £100,000 ar gyfer gwelliannau

Diweddarwyd diwethaf: Mai 1, 2019 11:41 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Rhosddu FC
RHANNU

Mae pêl droed yn parhau yn y penawdau ar hyn o bryd wrth i ni dderbyn y newyddion ein bod wedi ennill grant o £100,000 er mwyn helpu i wella cyfleusterau pêl droed ym Mharc y Ponciau a Pharc Solvay ym Mrynteg.

Bydd yr arian yn cefnogi gwelliannau i’r pafiliwn chwaraeon ym Mharc Solvay ac arian grant cyfatebol yr ydym eisoes wedi’i gael er mwyn helpu i adeiladu pafiliwn chwaraeon cymunedol newydd ym Mharc y Ponciau. Mae’r ardaloedd hyn yn rhan o brosiect canolfannau peilot i gefnogi pêl droed ar lawr gwlad yn Wrecsam.

- Cofrestru -
Wrecsam2029

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

Mae hyn yn dilyn grant o £50,000 gan Lywodraeth Cymru i ariannu gwaith datblygu yn ardaloedd y canolfannau peilot ar gyfer pêl droed gyda Chymdeithas Bêl Droed Cymru (Ymddiriedolaeth) a Chymdeithas Bêl Droed Gogledd Ddwyrain Cymru er mwyn helpu clybiau i ddatblygu timau bechgyn a merched, annog cysylltiadau cryfach rhwng y timau iau a’r timau hŷn ac annog cyfran ehangach o’r gymuned i gadw’n heini drwy chwarae pêl droed.

Mae un o’r canolfannau yn darparu ar gyfer clybiau pêl droed o Frynteg, Brymbo i Frychdyn Newydd, gan gynnwys Ysgol Clywedog, fel yr ysgol fwydo. Mae’r ganolfan arall yn darparu ar gyfer Johnstown, Rhos, Rhostyllen a Phen y Cae ac yn cynnwys Ysgol Rhiwabon ac Ysgol Grango, fel yr ysgolion bwydo.

Mae’r cymorth grant gan Lywodraeth Cymru wedi galluogi Cymdeithas Bêl Droed Cymru (Ymddiriedolaeth) i weithio â’r clybiau a’r ysgolion i ddatblygu cynlluniau i wella cyfleoedd pêl droed yn yr ardaloedd hyn. Disgwylir i’r gwaith ddod i ben ymhen ychydig wythnosau.

“Newyddion Arbennig”

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae hyn yn newyddion arbennig, ac rydym yn ddiolchgar iawn i’r Cyngor Chwaraeon am gydnabod y gwaith yr ydym yn ei wneud yma yn Wrecsam gyda phêl droed a’r gymuned.”

“Mae gennym ni, ynghyd â phartneriaid allweddol gan gynnwys Clwb Pêl Droed Wrecsam, Prifysgol Glyndŵr a Chymdeithas Bêl Droed Cymru, gynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu proffil pêl droed yn Wrecsam yn sylweddol ac mae’r cyllid hwn yn rhan o’r cynlluniau hynny wrth i ni symud ymlaen â hwy.”

Dywdodd Dafydd Elis-Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Os ydych yn cymryd dosbarthiadau mewn neuadd neu’n chwarae ar faes, mae gan yr argaeledd o gyfleusterau addas effaith eang ar brofiadau unigolion – a’r debygoliaeth o’u chyfranogiad ar sail aml.

“Mae angen glir i ledu’r cynnydd o gyfleusterau radd gyntaf ar ledled y wlad, ac rydym yn cyflawni ar hynny trwy fuddsoddiad, ond hefyd rhaid i ni sicrhau bydd y rhain yn cael eu defnyddio i les gymunedau lleol, yn ogystal ag athletwyr elitaidd.”

Gallwch ddarganfod mwy am y cynlluniau hyn yma:

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_61″] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol EU flag Dysgwch fwy am Gynllun Preswylio’r UE a sut i wneud cais – digwyddiad cyhoeddus yn Wrecsam ar Fai 9
Erthygl nesaf “Wrecsam, Edrychwch i Fyny!!” “Wrecsam, Edrychwch i Fyny!!”

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor
Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni
Pobl a lle
Awst 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English