Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhannu Bywydau – a yw hyn i chi?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Fideo > Rhannu Bywydau – a yw hyn i chi?
FideoPobl a lleY cyngor

Rhannu Bywydau – a yw hyn i chi?

Diweddarwyd diwethaf: Medi 10, 2019 9:52 am
Rhannu
Darllen 5 funud
RHANNU

Mae gofalwyr Rhannu Bywydau yn bobl gyffredin o bob lliw a llun ond, yn debyg i chi, maen nhw i gyd yn gofalu am bobl eraill – ac maen nhw’n newid bywydau pobl yng Nghymru pob dydd.

Cynnwys
  • Pwy sy’n defnyddio’r Gwasanaeth Rhannu Bywydau?
  • Paru bywydau
  • Beth sydd arnoch chi angen ei wneud i ddod yn ofalwr Rhannu Bywydau?
  • Beth yw’r manteision?
  • Ychydig o wybodaeth am PSS
  • Cysylltwch â ni!

Mae Rhannu Bywydau yn ffurf ar ofal a ddyfeisiwyd gan elusen gofal cymdeithasol PSS, lle mae pobl sydd angen ychydig o gymorth ychwanegol gyda phethau pob dydd – fel nôl neges, coginio neu smwddio – yn mynd i fyw neu ymweld â gofalwr Rhannu Bywydau, sydd wedi ei recriwtio yn arbennig. Yn eu cartrefi, rôl y gofalwyr yw helpu’r bobl maen nhw’n eu cefnogi i deimlo’n fwy annibynnol, i fagu hyder a byw eu bywydau i’r eithaf, gan roi pa faint bynnag o gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw.

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

Gallwch wylio fideo Rhannu Bywydau PSS yma

Pwy sy’n defnyddio’r Gwasanaeth Rhannu Bywydau?

Mae’r Gwasanaeth Rhannu Bywydau yn darparu cefnogaeth i drigolion gogledd Cymru sy’n 18 oed neu hŷn sydd, ar ddechrau defnyddio’r gwasanaeth, yn methu cefnogi eu hunain yn llwyr ar eu pen eu hunain. Gall fod yn rhywun sy’n dioddef o broblem iechyd meddwl fel iselder. Gall fod yn rhywun deunaw oed sy’n gadael y system gofal plant; rhywun gydag anabledd dysgu neu gorfforol; neu’n fam newydd sydd angen ychydig o gymorth yn ystod y dyddiau cyntaf. Y pwynt yw, gall Rhannu Bywydau weithio i unrhyw un sydd angen ychydig o gymorth.

Paru bywydau

Pan fyddwch chi’n dod yn ofalwr Rhannu Bywydau, bydd y person rydych chi’n gofalu amdano yn dod i fyw efo chi yn eich cartref, ac yn dod yn rhan estynedig o’ch teulu neu’n ffrind agos. I wneud yn siŵr eich bod chi’n cyd-dynnu, rydym ni’n darparu gwasanaeth paru. Byddwn yn rhoi gwybod i chi a’r person rydych chi’n gofalu amdano amdan eich gilydd a byddwn yn gwneud yn siŵr bod eich bywydau yn cyd-fynd. Y peth gorau am hyn oll yw cefnogi rhywun sydd, gobeithio, yn mwynhau’r un pethau â chi.

Beth sydd arnoch chi angen ei wneud i ddod yn ofalwr Rhannu Bywydau?

I ddod yn ofalwr Rhannu Bywydau PSS, does arnoch chi ddim angen profiad blaenorol o ofalu; gallwn eich hyfforddi i safon uchel iawn a darparu cymorth i chi ar bob cam o’r ffordd (bydd gennych chi dîm cefnogi penodol fydd yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn gwneud yn siŵr bod bob dim yn iawn). Mae’n ymwneud â chi fel person, yn ogystal â’r gefnogaeth y gallwch chi ei darparu. I gychwyn arni, y cwbl sydd arnoch chi ei angen yw calon fawr, meddwl agored, penderfyniad, natur ddibynadwy, digonedd o broffesiynoldeb a, heb anghofio, ystafell wely sbâr.

Beth yw’r manteision?

Ni fydd yr un diwrnod gwaith yr un fath – nid swydd naw tan bump gyffredin yw hon. Yn ogystal, byddwch yn newid bywyd rhywun er gwell!

Dyma ychydig o resymau eraill pam bod dod yn ofalwr Rhannu Bywydau yn beth mor wych:

  • Gallu gweithio gartref – neu yn y parc, y caffi, y pwll nofio neu’r ganolfan fingo
  • Oriau gweithio hyblyg
  • Ennill bywoliaeth drwy wneud rhywbeth gwerth chweil i rywun arall
  • Dysgu pethau newydd amdanoch chi’ch hun
  • Dysgu sgiliau newydd
  • Estyn eich teulu
  • Atal rhywun rhag teimlo’n unig

Ychydig o wybodaeth am PSS

Mae PSS yn fenter gymdeithasol sy’n helpu pobl wneud y gorau o’u bywydau. Wedi ei sefydlu yn 1919 gan Eleanor Rathbone, mae’r fenter yn darparu llawer o wasanaethau gwahanol i helpu pobl – o wasanaethau iechyd meddwl i wasanaethau cymdeithasol. O’u prif swyddfa yn Lerpwl, bu iddynt sefydlu’r gwasanaeth rhannu bywydau yn y 1970au, ac maen nhw wedi bod yn ei gynnal ers hynny. Rôl PSS yw recriwtio, hyfforddi a chefnogi pobl gyffredin, wych, fel chi sydd â natur ofalgar. Mae gan PSS dîm ardderchog yng Nghonwy sy’n edrych ar ôl y gwasanaeth Rhannu Bywydau yng ngogledd Cymru, gan gynnwys yma yn Wrecsam.

Cysylltwch â ni!

Felly dyna ni! Os hoffech chi wneud rhywbeth gwerth chweil gyda’ch bywyd, gwnewch gais i fod yn ofalwr Rhannu Bywydau!

01745 828000
Sharon.Dickinson@pss.org.uk
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Disgyblion Gwersyllt yn mynd yn ôl i'r ysgol - i safle newydd! Disgyblion Gwersyllt yn mynd yn ôl i’r ysgol – i safle newydd!
Erthygl nesaf Children's Services Y Bwrdd Gweithredol yn fyw o 10am

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Pobl a lle

Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod

Awst 17, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English