Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhybudd am negeseuon e-bost ffug gan “Ofgem”
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Rhybudd am negeseuon e-bost ffug gan “Ofgem”
Y cyngor

Rhybudd am negeseuon e-bost ffug gan “Ofgem”

Diweddarwyd diwethaf: Medi 21, 2022 10:55 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Rhybudd am negeseuon e-bost ffug gan “Ofgem”
RHANNU

Mae Action Fraud wedi cyhoeddi rhybudd am gynnydd mawr yn nifer yr adroddiadau am negeseuon e-bost ffug sy’n ymddangos fel pe baent wedi’u hanfon gan Ofgem, y rheoleiddiwr ynni annibynnol ar gyfer Prydain.

Mae’r negeseuon yn dweud eich bod chi’n gymwys i gael ad-daliad fel rhan o gynllun y llywodraeth ac yn darparu dolenni i chi wneud cais amdano. Mae’r dolenni yn y neges yn arwain at wefan sydd wedi’i chynllunio i ddwyn gwybodaeth bersonol ac ariannol.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Rhwng dydd Llun 22 Awst a dydd Llun 5 Medi 2022 cafodd 1,567 o negeseuon gwe-rwydo sy’n gysylltiedig â’r sgam hwn eu hadrodd i’r Gwasanaeth Adrodd am Negeseuon E-bost Amheus.

Mae’r holl negeseuon yn cynnwys y pennawd “Claim your bill rebate now”. Mae troseddwyr yn defnyddio logo a lliwiau brand Ofgem i wneud y negeseuon edrych yn rhai dilys. Maen nhw’n gofyn i bobl wneud cais am ad-daliad bil ynni cyn mis Medi 2020 – a dyna sut ddaru pobl sylweddoli bod y neges yn un twyllodrus.

Mae’r negeseuon yn dweud eich bod chi’n gymwys i gael ad-daliad fel rhan o gynllun y llywodraeth ac yn darparu dolenni i chi wneud cais amdano. Mae’r dolenni yn y neges yn arwain at wefan sydd wedi’i chynllunio i ddwyn gwybodaeth bersonol ac ariannol.

Meddai Roger Mapleson, Arweinydd Trwyddedu a Safonau Masnach: “Gyda chostau byw yn peri pryder mawr i lawer o bobl, hawdd iawn ydi cael eich temtio i wneud cais am ad-daliad. Cofiwch, ni fydd cwmnïau go iawn byth yn gofyn i chi rannu manylion personol dros neges e-bost neu neges destun. Byddwch yn ofalus pan fyddwch chi’n derbyn cynigion ariannol yn annisgwyl – ar yr achlysur yma gallai fod wedi bod yn gostus iawn i chi.”

Sut fedrwch chi ddiogelu eich hun ac eraill

Os oes gennych chi unrhyw amheuaeth, cysylltwch â’r sefydliad yn uniongyrchol. Peidiwch â defnyddio’r rhifau na’r cyfeiriad yn y neges – defnyddiwch y manylion ar y wefan swyddogol. Cofiwch, ni fydd eich banc (nac unrhyw sefydliad swyddogol arall) yn gofyn i chi rannu manylion personol mewn neges e-bost.

Os ydych chi wedi derbyn e-bost nad ydych yn hollol siŵr amdano, gallwch ei anfon ymlaen i report@phishing.gov.uk. Hyd yn oed os nad ydych chi’n siŵr mai sgam ydi’r neges, bydd yn dal yn cael ei gwirio.

  • Dilynwch y cyngor Pum Munud
    • STOPIO – Gall treulio munud neu ddau yn meddwl cyn penderfynu gwario arian neu ddarparu gwybodaeth bersonol eich cadw chi’n saff
    • HERIO – Ydi’r cynnig yn un go iawn? Mae gennych chi berffaith hawl gwrthod neu anwybyddu unrhyw gais. Dim ond troseddwyr wnaiff geisio eich rhuthro neu’ch dychryn chi
    • AMDDIFFYN – Os ydych chi’n credu eich bod chi wedi’ch twyllo cysylltwch â’ch banc ar unwaith a rhowch wybod i Action Fraud

Am fwy o wybodaeth am sut i fod yn ddiogel ar-lein, ewch i cyberaware.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Freedom Leisure Freedom Leisure yn Wrecsam yn cyhoeddi cynlluniau ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol Ffitrwydd 2022
Erthygl nesaf Learning at Lunchtime Newyddion Llyfrgell: Casgliad Gofalwyr

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
Recycling
Y cyngor

Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu

Medi 25, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Y cyngor

Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein

Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Y cyngor

Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw

Medi 24, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English