Rydym yn gofyn i bawb fod yn ymwybodol y cafwyd adroddiadau ar draws y wlad gan gynnwys yma yn Wrecsam ynglŷn â negeseuon e-bost ffug yn ymwneud ag ad-daliadau Ofgem.
Mae Action Fraud wedi cael 752 hysbysiad mewn pedwar diwrnod yn unig. Mae’r e-bost yn honni fod y derbynnydd yn gymwys i gael ad-daliad yn ymwneud â chynllun newydd a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Er bod y dolenni yn yr e-bost yn arwain at wefannau sy’n edrych yn swyddogol maent wedi eu dylunio i ddwyn eich gwybodaeth bersonol ac ariannol yn unig.
Os ydych yn cael un, dylech gysylltu â: Report@phishing.gov.uk
Dywedodd Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu, “Mae’r math hwn o dwyll wedi ei greu yn syml i ddwyn eich gwybodaeth a gallai yn y pen draw olygu eich bod yn colli arian. Cofiwch na fyddai eich banc neu unrhyw sefydliad swyddogol yn gofyn i chi rannu gwybodaeth bersonol dros e-bost neu neges destun.
“Os ydych yn amau unrhyw beth, cysylltwch â’r cwmni gan ddefnyddio eu gwefan swyddogol.”
I gael mwy o wybodaeth am sut i fod yn ddiogel ar-lein, ewch i: www.cyberaware.gov.uk
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH