Aeth ein graeanwyr allan am y tro cyntaf yr wythnos ddiwethaf, ac roeddem ni’n meddwl y byddai’n syniad da rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf â chi am y cynlluniau tywydd sydd gennym ar waith dros y gaeaf eleni.
Fel bob amser, rydym yn gobeithio am y gorau ond yn paratoi am y gwaethaf gydag eira, rhew, gwyntoedd cryfion, neu beth bynnag a ddaw.
Rydym eisiau gwneud yn siŵr fod y trefniadau i gyd yn eu lle i’n helpu ni i ddelio â’r tywydd garw a gallu mynd o gwmpas y lle gyda chyn lleied o amhariad â phosibl.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Mae gennym fflyd o gerbydau graeanu wedi eu cynnal yn dda a gyrwyr profiadol sy’n sicrhau bod ein llwybrau graeanu mor ddiogel â phosibl.
Mae gennym 7,500 tunnell o raean a gaiff ei gyflenwi bob tro byddwn yn graeanu’r ffyrdd.
Mae gennym gynlluniau ar waith hefyd i ddarparu ar gyfer cyfnodau estynedig o dywydd garw sy’n cynnwys cynlluniau i raeanu stadau tai (pan ei bod yn ddiogel i wneud hynny) cyn y casgliadau bin a chadw ardaloedd fel llety gwarchod a llwybrau ysgol mor glir a diogel â phosibl.
“Graeanu neu beidio yn y gaeaf?”
Dyma’r cwestiwn a wynebir sawl gwaith y dydd gan ein goruchwylwyr profiadol. Gallai graeanu’n rhy fuan olygu y bydd yn cael ei olchi i ffwrdd gan y glaw. Rhy hwyr – a gallai eich taith fod yn un llithrig.
Os hoffech wybod os yw’r cerbydau graeanu yn eich cyrraedd chi, cadwch lygad ar ein cyfrif Twitter @cbswrecsam – neu chwiliwch am #wxmgrit.
Rydym hefyd yn anfon hysbysiadau drwy’r system MyUpdates, sy’n anfon negeseuon e-bost yn uniongyrchol i danysgrifwyr.
Pan fydd disgwyl tywydd garw iawn, neu os ydym yn profi cyfnod hir o dywydd oer, rhewllyd, byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am le i ddod o hyd i wybodaeth ar gasgliadau biniau ac ysgolion ar gau ac ati ar y blog hwn, ein gwefan ar www.wrecsam.gov.uk a’n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol felly cadwch lygad arnynt.
???? Cofiwch gael golwg ar eich cerbyd cyn mynd allan yn ystod neu cyn unrhyw dywydd garw. Mae’r Swyddfa Dywydd yn cynnig cyngor rhagorol ond dylech gofio neilltuo rhagor o amser ar gyfer eich taith ac aros yn ddiogel.
Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym mor barod ag y gallwn ni fod ac mae gyrwyr eisoes wedi bod yn gwirio eu lwybrau graeanu i wneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o unrhyw broblemau posibl. Rydym yn gwerthfawrogi’r gwasanaeth hwn ac eisiau sicrhau ein bod yn cadw pawb i symud yn ystod tywydd garw, sy’n hanfodol ar gyfer yr economi lleol. Cymerwch ddigon o ofal yn ystod y gaeaf, sylwch ar rybuddion a chyngor tywydd a gweithredwch yn briodol.”
“Helpwch lle fedrwch chi”
Edrychwch ar ôl aelodau hŷn o’ch teulu neu gymdogion diamddiffyn hefyd. Gallai tywydd garw wneud pethau’n anodd iddynt wrth iddynt geisio ymgymryd â’u tasgau dyddiol, megis siopa am eitemau hanfodol. Ceisiwch gynnig cymorth lle bo modd – gallai hynny wneud gwahaniaeth mawr i rywun nad ydynt yn gallu mynd allan ar eu pen eu hunain.
Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae tywydd garw yn gwneud pethau’n anodd i bob un ohonom o ran cludiant a thasgau dyddiol, felly dychmygwch pa mor anodd yw hynny i bobl â phroblemau symudedd a phobl nad ydynt yn gallu mynd allan o gwbl.
“Ystyriwch sut y gallwch chi helpu gyda thasgau megis siopa hanfodol neu gasglu presgripsiynau. Cofiwch y gallech wneud gwahaniaeth mawr i rywun drwy helpu â siopa bwyd neu drwy ffonio am sgwrs sydyn.”
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL