Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Safonau Masnach Cymru yn rhoi rhybudd am dwyll neges destun am y Cyfrifiad
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Safonau Masnach Cymru yn rhoi rhybudd am dwyll neges destun am y Cyfrifiad
Arall

Safonau Masnach Cymru yn rhoi rhybudd am dwyll neges destun am y Cyfrifiad

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 1, 2021 11:28 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Safonau Masnach Cymru yn rhoi rhybudd am dwyll neges destun am y Cyfrifiad
RHANNU

Erthygl gwadd- Safonau Masnach Cymru

Mae Safonau Masnach Cymru wedi cael ei hysbysu am  dwyll ar ffurf neges destun sy’n ymwneud â’r Cyfrifiad cenedlaethol.

- Cofrestru -
Wrecsam2029

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Dywedir wrth y bobl sy’n derbyn y neges fod gwybodaeth ar goll o’u Cyfrifiad wedi’i gwblhau a gofynnir iddynt glicio ar ddolen er mwyn cwblhau eu ffurflen neu byddant yn wynebu cael eu herlyn. Wrth glicio ar y ddolen cânt eu cyfeirio at safle sy’n edrych yn union yr un peth â ffurflen ar-lein y Cyfrifiad. Wrth lenwi’r ffurflen a’i chyflwyno, gofynnir i’r derbynnydd dalu ffi o £1.25.

Meddai Helen Picton, Cadeirydd Gwasanaeth Safonau masnach Cymru: “Mae galwadau a negeseuon twyllodrus i ffonau symudol yn broblem ddifrifol. Does dim byd cyfwerth â rhwystr galwadau ffôn llinell dir ar gyfer ffonau symudol er mwyn eu hatal rhag eich cyrraedd.

“Mae rhai o’r negeseuon hyn yn argyhoeddiadol iawn. Cofiwch, ni fyddai unrhyw asiantaeth llywodraeth yn anfon neges atoch yn mynnu arian trwy neges destun neu drwy neges ffôn awtomataidd.

“Os yw cwmni’n anfon dolen atoch trwy neges destun yn gofyn i chi glicio arni, dylech ei hanwybyddu. Os ydych yn ansicr gan fod gennych gyfrif gyda’r cwmni hwnnw, cysylltwch â nhw’n uniongyrchol a pheidiwch â defnyddio’r ddolen a ddarperir.”

Dyma rai pethau y gallwch eu gwneud i leihau nifer y galwadau a negeseuon testun twyllodrus rydych yn eu derbyn:

  • Mae gan y rhan fwyaf o ffonau symudol osodiadau sy’n rhwystro rhifau. Chwiliwch ar y rhyngrwyd am “atal rhifau ar fy ffôn symudol (enw’r brand)” i gael rhagor o wybodaeth am eich ffôn neu fel arfer mae cyngor ar wefan darparwr eich ffôn symudol.
  • Gallwch gofrestru gyda’r Gwasanaeth Dewis Galwadau Ffôn
  • Rhowch wybod am y negeseuon hyn i’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol – 7726
  • https://www.ncsc.gov.uk/guidance/suspicious-email-actions
  • Cysylltwch â Chanolfan Gyswllt Cyfrifiad 2021 trwy ffonio 0800 169 2021 ar gyfer Cymru neu 0800 141 2021 ar gyfer Lloegr.

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://llyw.cymru/cyfyngiadau-cyfredol “] Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Armed Forces Meddwl gadael y Lluoedd Arfog?
Erthygl nesaf Mae llai na 30 diwrnod ar ôl i wneud cais ar gyfer Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE Mae llai na 30 diwrnod ar ôl i wneud cais ar gyfer Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

wall proposal
ArallPobl a lle

Cyngor Wrecsam yn parhau i gydweithio â Solar Windows ar Fenter Ffenestri a Drysau Fawr

Mehefin 23, 2026
housing development plan
Arall

Ymgynghoriad cyhoeddus ar ailddatblygu Ffordd Rhosddu i ddechrau heddiw

Mai 18, 2026
Rhowch eich Barn ar Ddyfodol y Rhos
ArallPobl a lle

Rhowch eich Barn ar Ddyfodol y Rhos

Mawrth 17, 2026
'Amgueddfa Dau Hanner' Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed - mewn lluniau
30
Arall

‘Amgueddfa Dau Hanner’ Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed – mewn lluniau

Chwefror 4, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English