Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Seibiant i Rachel
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Seibiant i Rachel
Pobl a lleY cyngor

Seibiant i Rachel

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 18, 2017 10:30 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Seibiant i Rachel
RHANNU

Dim cyflog, dim tâl salwch, dim gwyliau blynyddol – os ydych yn ofalwr byddwch yn gwybod sut beth yw hyn!

Cynnwys
  • Felly pwy yw Rachel, Freya a Karan?
  • Beth ellid ei wneud?

Mae gofalu am anwyliaid yn gallu rhoi straen ar y corff a’r meddwl ac mae bywyd yn gallu bod yn llawn emosiynau . Er bod digon o ymrwymiad i ddarparu cefnogaeth i ofalwyr mae’n anodd iawn gwneud yn siŵr fod pawb yn cael beth sydd ei angen arnyn nhw pan fo anghenion unigol gofalwyr ac anwyliaid mor wahanol.

Ond yn Wrecsam mae enghraifft brin o feddwl yn greadigol ac arferion ymarferol yn newid bywydau Rachel Harry, ei merch Freya a mam Rachel, Karan.

Felly pwy yw Rachel, Freya a Karan?

Yn 2012, roedd Rachel yn fam feichiog llawn cyffro ond ar ôl dioddef o drawiad anferth ar ei chalon wrth roi genedigaeth Cesaraidd i Freya, newidiodd ei bywyd yn fawr.

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

Yn ei chartref gyda Freya, ei mam Karan a phartner Karan, Roger, mae angen gofal bob awr o’r dydd ar Rachel bellach oherwydd effeithiau anaf hypocsig ar ei hymennydd. Maent i gyd yn cael eu cefnogi gan chwaer Rachel, Emma a’i thad, Paul yn ogystal â gofalwyr TLC Nursing. Mae ffisiotherapi arbenigol yn cael ei ariannu trwy nawdd noddwyr caredig a hael ac yn cael ei ddarparu gan TherapyMatters.

Mewn gwirionedd mae gan Karan hawl i gael 6 awr o amser i ffwrdd bob wythnos gyda gweithwyr cyflenwi yn dod i ddarparu gofal dros nos wedi’i gynllunio’n rheolaidd. Ond nid yw hyn yn bosibl oherwydd byddai pob opsiwn seibiant sydd ar gael yn golygu bod rhaid gwahanu Rachel a Freya sy’n disgyn i gysgu gyda’i gilydd bob nos ac yn bwyta tost gyda’i gilydd bob bore.

Beth ellid ei wneud?

Felly am dros 4 blynedd roedd bron yn amhosibl i Karan neu Rachel a Freya gael seibiant.

Mae Karan wedi llwyddo i gael ychydig o amser i ffwrdd pan ddaeth chwaer Rachel, Emma, i ‘warchod’, ond roedd hynny’n golygu fod Emma yn gorfod gadael ei phlant ei hun adref neu ddod â nhw gyda hi i gartref Karen. Hefyd nid oes modd i Rachel a Freya aros yn unrhyw le arall oherwydd yr addasiadau sydd eu hangen ar Rachel.

Yn ffodus, camodd Therapydd Galwedigaethol Rachel, Helen Wooding, a’i Gweithiwr Cymdeithasol, Susan Sharp, i mewn.  Gan ddefnyddio cyllid drwy Daliadau Uniongyrchol fe wnaethant gais i drosi garej Emma yn ystafell wely gydag ystafell wlyb ‘ensuite’. Bu eu cais yn llwyddiannus ac mae Rachel a Freya bellach yn gallu aros yn eu cartref gyda Karan a chael egwyliau bach gyda chwaer Rachel a’i theulu. Mae hyn yn golygu fod Karan yn cael seibiant rheolaidd o’i rôl ofalu yn ei chartref ei hun gyda’i phartner Roger am y tro cyntaf ers pum mlynedd.

Seibiant i Rachel
Rachel a Freya yn gyfforddus yn eu hystafell newydd

Dyma’r tro cyntaf yn y gwasanaeth Therapi Galwedigaethol i Daliadau Uniongyrchol gael eu defnyddio i ariannu addasiadau fel hyn ac mae gan Rachel, Freya, Karan ac Emma bellach  gyfleusterau seibiant perffaith sy’n cadw’r uned deuluol gyda’i gilydd. Trwy feddwl yn agored a defnyddio cyllid yn greadigol yn unol â deddfwriaethau, bydd yr addasiad yn diwallu anghenion seibiant hirdymor y teulu, mae wedi atal straen i’r gofalwyr ac yn bwysicaf oll mae Rachel yn elwa o amser i ffwrdd o’i chartref gyda’i merch a theulu ei chwarae gyda chyfleusterau diogel a phriodol.

Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Diweddariad 17.12.17 – D Jones & Sons yn Rhoi’r Gorau i Fasnachu Heddiw Diweddariad 17.12.17 – D Jones & Sons yn Rhoi’r Gorau i Fasnachu Heddiw
Erthygl nesaf 18.12.17 D Jones and Son - Datganiad ar Wasanaethau Bws 18.12.17 D Jones and Son – Datganiad ar Wasanaethau Bws

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 17, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod
Pobl a lle
Awst 17, 2026
Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam

Awst 12, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English