Mae Tîm Wrecsam Egnïol Cyngor Wrecsam wedi cael grant gan Chwaraeon Cymru fel rhan o’r Cynllun Gweithredu Pwysau Iach: Cymru Iach. Bydd y sesiynau i rai 60+ oed yn galluogi pobl dros 60 oed yng Nghymru i fyw bywydau hirach, gwell a hapusach, gan wella eu lefelau gweithgarwch corfforol, eu hyder, eu cryfder a’u cyd-bwysedd.
Oherwydd cyfyngiadau presennol y cyfnod clo rydym yn mynd i ddarparu sesiynau ar-lein AM DDIM dros Zoom gan gynnwys dosbarth Tai Chi / Hyfforddiant Cylchol a sesiynau hyfforddiant cylchol yn y Gampfa. Nid oes angen unrhyw brofiad o ymarfer corff arnoch i ymuno, bydd ein tîm ymarfer corff proffesiynol sy’n hynod o brofiadol yn eich arwain trwy’r sesiynau. Mae’r sesiynau hyn ar agor i unrhyw un sy’n 60 oed neu’n hŷn.
Os oes gennych ddiddordeb ac os hoffech gymryd rhan yn y sesiynau hyn gyda’n staff hyfforddedig, anfonwch e-bost at Active60@wrexham.gov.uk a bydd un o’n hyfforddwyr mewn cysylltiad.
Mae’n bwysig eich bod yn cadw’n egnïol ac yn iach yn ystod y pandemig presennol. Dyma’r rhesymau pam y dylech fynychu ein sesiynau ymarfer corff i bobl hŷn:
• Mae’n help i roi hwb i’ch system imiwnedd
• Mae’n gostwng lefelau straen
• Mae’n cynnal eich annibyniaeth
• Mae’n eich cadw yn ddi-boen
• Mae’n lleihau’ch risg o glefyd y galon a strôc
• Mae’n lleihau’ch risg o diabetes math 2, rhai canserau, iselder a dementia
• Mae’n lleihau’ch risg o gael codwm
• Gallwch wneud ffrindiau newydd!
Cynllun Hamdden Egnïol Amserlen Ymarfer Corff ar Zoom
Dydd Mercher: Tai Chi 1.00pm-1.40pm
Dydd Mercher: Hyfforddiant Cylchol 2.00pm-2.40pm
Dydd Iau: Tai Chi 1.00pm-1.40pm
Dydd Iau: Hyfforddiant Cylchol yn y Gampfa 2.00pm-2.40pm
CANFOD Y FFEITHIAU