Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sticer i atgoffa preswylwyr i dalu am wasanaeth casglu gwastraff gardd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Mobile phone
Bydd eich ffôn symudol yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn uchel fel seiren ddydd Sul
Arall
Recycling
Ydych chi’n ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc? Byddwch yn ymwybodol o’r newidiadau hyn…
Y cyngor
admissions
Dyddiadau derbyn i ysgolion ar gyfer 2026
Busnes ac addysg Y cyngor
Red Ensign
Chwifio’r Lluman Coch i nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol
Pobl a lle Y cyngor
Enillydd Glastonbury yn Perfformio yn Tŷ Pawb yn mis Medi!
Enillydd Glastonbury yn Perfformio yn Tŷ Pawb yn mis Medi!
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Sticer i atgoffa preswylwyr i dalu am wasanaeth casglu gwastraff gardd
Y cyngor

Sticer i atgoffa preswylwyr i dalu am wasanaeth casglu gwastraff gardd

Diweddarwyd diwethaf: 2021/11/25 at 9:37 AM
Rhannu
Darllen 4 funud
green bin
RHANNU

Ni fydd biniau preswylwyr sy’n rhoi eu bin gwyrdd allan i’w gasglu ond nad ydynt wedi talu am y gwasanaeth casglu gwastraff gardd yn cael eu gwagio, yn hytrach, gosodir sticer arno i’w hatgoffa sut i gofrestru ar gyfer y casgliadau.

Cynnwys
“Nid ydym am i bobl fethu unrhyw gasgliadau”Cewch fwy na 9 mis o gasgliadau os byddwch chi’n cofrestru cyn hirTalwch ar-lein lle bo moddGadewch 10 diwrnod i’ch sticer gyrraeddCasgliadau misol Rhag 2021-Chwef 2022

Oes un o’r sticeri hyn wedi ymddangos ar eich bin gwyrdd chi yn ddiweddar? ????

Sticer i atgoffa preswylwyr i dalu am wasanaeth casglu gwastraff gardd

Os nad ydych chi wedi talu am wasanaeth 2021/22, ewch i wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd a dilyn y cyfarwyddiadau syml i dalu.

Mae’r tâl gwasanaeth wedi ei rewi ar £25 y bin a bydd y gwasanaeth yn para o’ch dyddiad cofrestru tan 2 Medi 2022, felly cofrestrwch cyn gynted â phosibl i gael y gwerth gorau am arian. Yn syml, gorau po gyntaf y byddwch yn ymuno er mwyn i chi gael mwy o gasgliadau.

“Nid ydym am i bobl fethu unrhyw gasgliadau”

Dywedodd Darren Williams, Prif Swyddog Amgylcheddol a Thechnegol: “Rydym wedi cyflwyno’r sticeri fel ffordd o roi gwybod i breswylwyr sut i adnewyddu’r gwasanaeth, os nad ydynt wedi talu ond eu bod yn dal i roi eu bin gwyrdd allan i’w gasglu. Mae’n debyg nad yw rhai wedi sylweddoli bod y flwyddyn gasglu newydd wedi dechrau ddiwedd mis Awst ac nid ydym am i’r bobl hyn fethu unrhyw gasgliadau. Rydym am geisio rhoi gwybodaeth iddynt am sut gallant dalu, ac mae’r sticeri yn ffordd uniongyrchol i ni wneud hyn. Gall unrhyw un nad ydynt wedi talu eto ac sydd eisiau’r casgliadau fynd i wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd neu ffonio’r adran Gwasanaethau Stryd i dalu a byddant yn dal i gael sawl mis o gasgliadau am £25 os byddant yn cofrestru’n fuan.”

Cewch fwy na 9 mis o gasgliadau os byddwch chi’n cofrestru cyn hir

Mae’r hydref bob amser yn amser poblogaidd ar gyfer garddio, gyda dail yn cwympo o’r coed a phlanhigion meirw o’r haf angen eu clirio. Os na wnaethoch adnewyddu ym mis Awst, ond yn difaru bellach, cofiwch nad yw’n rhy hwyr i ymuno!

Os byddwch yn cofrestru rŵan, byddwch yn cael 9 mis o gasgliadau, a phe baech yn ei adael am fis arall cyn cofrestru, byddwch yn talu’r un pris i gael 8 mis o gasgliadau.

Talwch ar-lein lle bo modd

Talu ar-lein yw’r ffordd hawsaf a mwyaf cyfleus o gofrestru ar gyfer y gwasanaeth, a gallwch wneud hyn ar unrhyw adeg o’r dydd, a bydd ond yn cymryd ychydig funudau i chi.

Os nad yw’n bosibl i chi dalu ar-lein, gallwch ffonio Gwasanaethau Stryd i dalu â cherdyn, ond mae’n debyg y bydd rhaid i chi aros i wneud hynny.

Gadewch 10 diwrnod i’ch sticer gyrraedd

Bydd preswylwyr sy’n cofrestru ar gyfer y gwasanaeth yn derbyn sticer newydd ar gyfer casgliadau 2021/22, y bydd angen ei arddangos yn glir ar gaead eich bin. Gadewch 10 diwrnod o leiaf o’r dyddiad rydych yn cofrestru er mwyn derbyn eich pecyn sticer newydd.

Casgliadau misol Rhag 2021-Chwef 2022

Bydd casgliadau gwastraff gardd yn rhedeg unwaith y mis o fis Rhagfyr 2021 tan fis Chwefror 2022 ar gyfer rhai sydd wedi talu am y gwasanaeth, a bydd casgliadau arferol bob pythefnos yn ailddechrau ym mis Mawrth.

Nodyn atgoffa – casgliadau bin gwyrdd yn newid i gasgliad misol dros gyfnod y gaeaf

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol 12-15 Clinig Brechu Galw Heibio i bobl ifanc 12 -15 oed ar y Penwythnosau
Erthygl nesaf Christmas Y Goeden Nadolig wedi ei goleuo ac yn barod ar gyfer y Nadolig diolch i Aur Clogau!

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mobile phone
Bydd eich ffôn symudol yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn uchel fel seiren ddydd Sul
Arall Medi 1, 2025
Recycling
Ydych chi’n ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc? Byddwch yn ymwybodol o’r newidiadau hyn…
Y cyngor Awst 30, 2025
admissions
Dyddiadau derbyn i ysgolion ar gyfer 2026
Busnes ac addysg Y cyngor Awst 29, 2025
Red Ensign
Chwifio’r Lluman Coch i nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol
Pobl a lle Y cyngor Awst 27, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Recycling
Y cyngor

Ydych chi’n ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc? Byddwch yn ymwybodol o’r newidiadau hyn…

Awst 30, 2025
admissions
Busnes ac addysgY cyngor

Dyddiadau derbyn i ysgolion ar gyfer 2026

Awst 29, 2025
Red Ensign
Pobl a lleY cyngor

Chwifio’r Lluman Coch i nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol

Awst 27, 2025
Dau oedolyn hŷn yn eistedd gyferbyn â'i gilydd wrth fwrdd yn cael sgwrs
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sesiynau galw heibio i’w cynnal ledled y sir ynghylch gwasanaethau cymdeithasol oedolion

Awst 22, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English