Mynychodd dros 60 o bobl leol ddigwyddiad recriwtio diweddar i’r maes adeiladu yng nghanolfan Tŷ Pawb, a chawsant gyfle i siarad gyda chwmnïau lleol sydd wrthi’n recriwtio yn y diwydiant adeiladu.
Ymysg y cwmnïau oedd yn bresennol oedd, Wynne Construction, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, SWG Construction, Henry Williams & Son, Performance Civils Ltd, Gareth Morris Construction a MPH Construction.
Roedd darparwyr lleol wrth law hefyd i drafod cyfleoedd hyfforddiant a chefnogaeth yn y sector, yn cynnwys Adran Gwaith a Phensiynau, Gyrfa Cymru a Dysgu Oedolion yn y Gymuned a Groundwork. Daeth Prifysgol Glyndŵr â dronau gyda nhw er mwyn tynnu sylw at y cymwysterau lefel uwch maen nhw’n eu cynnig, a chynhaliodd Coleg Cambria ymarferon gwaith coed a gosod brics. Roedd yr Efelychwr Gyrru yn boblogaidd iawn hefyd, gan roi cyfle i bobl brofi eu sgiliau gyrru cerbyd dympio.
Trefnwyd y digwyddiad gan Cymunedau am Waith a Mwy Wrecsam mewn partneriaeth â CITB.
Dywedodd Rheolwr Rhaglen Cyflogaeth Cymunedol, Jon Sankey, “Roedd hi’n wych gallu darparu cyfle i gyflogwyr lleol i gyfarfod pobl sydd â diddordeb ymuno â’r diwydiant adeiladu, a sôn wrthynt am y niferoedd enfawr o fathau gwahanol o waith sydd ar gael.
“Dwi’n gobeithio bod y gweithgareddau rhyngweithiol wedi rhoi syniad ymarferol i bobl o sut beth yw gweithio ar safle a gwneud rhai o’r swyddi sydd ddirfawr eu hangen ar hyn o bryd, ac egluro pa gefnogaeth y gallwn ni ei roi iddynt os ydynt yn dymuno cael gyrfa yn y diwydiant. Rydw i eisiau diolch i’r holl arddangoswyr a ddaeth draw a gobeithio ei fod wedi bod yn brofiad buddiol iddyn nhw ac y byddant yn ymuno â ni yn y dyfodol wrth i ni gynnal digwyddiadau tebyg”.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio, “Mae diwydiannu adeiladu wrthi’n recriwtio yn ardal Wrecsam ar hyn o bryd ac mae yna gyfleoedd gwych i bobl leol. Roedd hwn yn ddigwyddiad poblogaidd iawn a dwi’n gobeithio y gellir ei gynnal eto i ddiwydiannau eraill yn y dyfodol”.
“Fe hoffwn i ddiolch i’r holl staff a fu’n rhan o’r gwaith o ddod â chymaint o gwmnïau ynghyd er mwyn sicrhau digwyddiad llwyddiannus.”
Os ydych chi’n byw yn Wrecsam, yn ddi-waith ar hyn o bryd ac os nad ydych chi mewn addysg, yna gall Cymunedau am Waith a Mwy Wrecsam eich helpu i fynd ar gwrs CSCS sydd wedi’i ariannu’n llawn a mentora un-i-un i helpu i’ch cefnogi mewn i gyflogaeth. Yn syml, llenwch eich gwybodaeth yn y ddolen isod www.wrexham.gov.uk/mentoring a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi neu fel arall, gallwch ffonio 01978 318853 neu 01978 820520.