Mae gorchudd wyneb yn gallu helpu i ddiogelu chi ac eraill rhag y coronafeirws.
Mae dau fath o orchudd wyneb – gorchudd rydych yn ei ailddefnyddio a gorchudd rydych yn ei ddefnyddio unwaith yn unig.
Mae gorchuddion wyneb rydych yn eu hailddefnyddio yn well i’r amgylchedd – ond mae angen o leiaf dair haen o gotwm tyn ei wead ynddo, gan nad yw deunyddiau fel sidan yn diogelu.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Ond sut mae gwisgo un yn ddiogel?
Dyma sut…
Cyn rhoi’r gorchudd wyneb ymlaen, golchwch eich dwylo neu defnyddiwch hylif diheintio dwylo i ladd unrhyw germau.
Nawr mae’n ddiogel ichi wisgo’ch gorchudd wyneb.
Yn gyntaf, mae angen sicrhau bod eich gorchudd wyneb y ffordd iawn i’w roi ymlaen.
Yna, gan ddal y strapiau yn unig, codwch ef at eich wyneb a’i osod y tu ôl i’ch clustiau neu’ch pen, gan ddibynnu ar y math o orchudd.
Dylai’ch gorchudd wyneb estyn o uwchben eich trwyn i o dan eich gên a dylai fod yn dynn ar eich wyneb heb fylchau.
Ar ôl ei roi ymlaen, gwnewch yn siŵr nad yw’n llithro o dan eich trwyn na’ch ceg, a pheidiwch â’i gyffwrdd â’ch dwylo.
I dynnu’r gorchudd wyneb, golchwch eich dwylo neu defnyddiwch hylif diheintio.
Yna, gan ddefnyddio’r strapiau eto, tynnwch ef oddi ar eich wyneb.
Peidiwch â chyffwrdd y gorchudd ei hun gan y gallai fod wedi’i heintio.
Dylid cael gwared yn ddiogel â gorchuddion wyneb untro, a dylai’r rhai rydych yn eu hailddefnyddio gael eu golchi yn syth ar ôl ichi gyrraedd adref.
Ewch â bag plastig bach gyda chi i roi’ch gorchudd wyneb ynddo ar ôl ei dynnu hyd nes y byddwch yn cyrraedd adref.
Yn olaf, golchwch eich dwylo neu defnyddiwch hylif diheintio unwaith eto.
Dilynwch y camau hyn i wneud eich gorchudd wyneb mor effeithiol â phosibl.
Mae fy ngorchudd wyneb i yn diogelu chi ac mae’ch gorchudd wyneb chi yn diogelu fi.
Diogelu’ch hun ac eraill.
Diogelu Cymru gyda’n gilydd.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG