Yn gynharach eleni, ym mis Ionawr, mynegodd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) bryderon ynglŷn â gwasanaethau plant Wrecsam. Dywedodd AGC bod angen i’n gwasanaethau fod yn fwy cyson wrth ymateb i anghenion plant.
Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn llythyr Adolygiad Blynyddol AGC am ein perfformiad yn 2019/20 (Ebrill-Ebrill), sy’n dangos eu bod wedi codi eu lefel bryder ynghlwm â’r gwasanaethau plant o ddifrifol i sylweddol.
Dywedodd y Alwyn Jones, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol: “O fis Ionawr ymlaen, fe ddechreuom ni gymryd camau pwysig ar unwaith i fynd i’r afael â phryderon AGC a thros y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi gwneud gwelliannau ar draws ein holl wasanaethau plant.
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Y tri cham a gymerwyd ar unwaith oedd:
• Dyrannu £1miliwn yn ychwanegol i helpu i wneud gwelliannau i’r gwasanaethau cymdeithasol, a sicrhau bod gan yr adran yr holl adnoddau yr oedd eu hangen
• Sefydlu’r Bwrdd Gwelliannau Cyflym; grŵp uwch sy’n cynnwys ein Prif Weithredwr, uwch-gynghorwyr ac uwch-reolwyr, i fonitro’r cynnydd a’n cymell yn ein blaenau
• Sefydlu Tîm Cefnogaeth Arbenigol, sydd wedi arwain at welliannau cyflym mewn meysydd allweddol o waith cymdeithasol i blant
Mae’r gwaith hwn wedi cael ei gydnabod gan AGC mewn dau gyfarfod ffurfiol rydyn ni wedi’i gael â nhw (un ddiwedd Ebrill ac un ym mis Gorffennaf). Yn benodol, dywedodd AGC bod:
• Cynnydd wedi’i wneud gyda rheolaeth a thîm o staff llawer gwell, parhaol a galluog
• Mae ein gwasanaethau cymdeithasol yn gwneud gwaith da o ymdrin â sefyllfaoedd anodd a chymhleth
• Mae Wrecsam ar y trywydd cywir i wella mwy
“Rhoi ein plant yn gyntaf”
“Cododd Arolygiaeth Gofal Cymru’r pryderon hyn gyda ni ym mis Ionawr ac fe gymerom ni gamau ar unwaith i wella gwasanaethau plant yn Wrecsam. Mae’r £1miliwn yn ychwanegol, y Bwrdd Gwelliannau Cyflym, a’n Tîm Cefnogaeth Arbenigol i gyd wedi cyfrannu at sicrhau ein bod yn rhoi ein plant yn gyntaf.
“Mae ein gweithlu ni, sy’n cynnwys gweithwyr cymdeithasol a gwahanol weithwyr cefnogi, wedi’u hyfforddi i gefnogi teuluoedd sydd angen cymorth ac maen nhw wedyn yn cael eu cefnogi’n llawn gan reolwyr medrus iawn sy’n gwneud gwaith pwysig wrth arwain eu timau.
“Rydyn ni wedi ein rhoi ein hunain mewn lle i allu diwallu pob un o anghenion plant a’u teuluoedd, a gallwn bellach weithio gyda phartneriaeth eraill fel yr heddlu a’r gwasanaeth iechyd yn fwy effeithiol. Mae gennym ni’r nifer cywir o reolwyr a staff parhaol sydd wedi’u hyfforddi ac sydd â phopeth y maent ei angen i wneud gwahaniaeth, ac mae hyn i’w weld yn eu gwaith dros y misoedd diwethaf.”
“Dal i symud ymlaen”
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Plant: “Er fy mod i’n heitha’ newydd i’r rôl fy hun, hoffwn bwysleisio bod gennym ni tîm ardderchog o swyddogion ac rydym ni gyd yn gwneud newidiadau, mae cynnydd da wedi’i wneud yn Wrecsam.
“Yn y ddau gyfarfod gydag AGC, maen nhw wedi dweud wrthym ni eu bod wedi sylwi ar wahaniaeth a’n bod ni wedi gallu gwneud newidiadau mawr yn Wrecsam yn barod, ond y nod yw dal i symud ymlaen i roi hyd yn oed mwy o gefnogaeth i blant yn Wrecsam.”
“Rydyn ni’n gwybod bod y sylfaen wedi’i osod i allu helpu plant a theuluoedd i dderbyn cymorth yn gynnar, ac rydyn ni am wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau ein bod yn cefnogi teuluoedd trwy gyfnodau heriol.”
YMGEISIWCH RŴAN