Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Tai ar gyfer Pobl Hŷn – rhannwch eich syniadau
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Tai ar gyfer Pobl Hŷn – rhannwch eich syniadau
Pobl a lleY cyngor

Tai ar gyfer Pobl Hŷn – rhannwch eich syniadau

Diweddarwyd diwethaf: Awst 6, 2018 3:03 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Tai ar gyfer Pobl Hŷn – rhannwch eich syniadau
RHANNU

Does neb ohonom yn hoffi mynd yn hŷn.

Cynnwys
  • Llety – beth ydych chi’n bwriadu ei wneud?
  • “Mae mor bwysig ein bod yn cael hyn yn gywir”
  • Peidiwch â methu allan – cymerwch ran

Ond wrth i ni heneiddio, bydd ein hanghenion a’n hamgylchiadau’n newid – a bydd rhai o’r newidiadau mor bwysig, bydd angen meddwl amdanynt ymlaen llaw.

Mae Wrecsam yn ardal sydd â phoblogaeth sydd yn heneiddio. Yn ôl ffigurau o’r cyfrifiad diwethaf yn 2011, mae 24% o boblogaeth Wrecsam yn 60 oed neu’n hŷn, a dim ond cynyddu fydd y niferoedd yma.

Felly mae hi’n bwysig ein bod ni’n rhoi pethau ar waith iddynt fod yn addas ar gyfer anghenion newidiol pobl wrth iddynt heneiddio.

WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA

Llety – beth ydych chi’n bwriadu ei wneud?

Un o ddarnau mwyaf y pos hwnnw ydi tai a llety – ac rydym eisiau eich help chi i ddweud wrthym beth ydi’r anghenion hyn.

Efallai eich bod chi’n byw yn Wrecsam ac eisiau newid eich cynlluniau llety pan fyddwch chi’n hŷn.

Neu efallai eich bod eisoes wedi symud i lety mwy addas. Os felly, fe hoffem glywed pam eich bod wedi symud, a beth yn eich barn chi, yw’r manteision neu anfanteision yn sgil symud o’ch cartref.

Neu efallai bod gennych chi berthynas hŷn sydd yn ystyried symud.

Pe bai’ch sefyllfa, mae arnom ni eisiau clywed gennych chi.

Does dim ots a ydych chi’n rhentu eich eiddo neu’n berchen arno – fe hoffem glywed beth sydd gennych chi i’w ddweud.

Am resymau amlwg, mae ein harolwg wedi’i anelu at bobl 50 oed neu’n hŷn – ond mae croeso i bawb ei lenwi.

“Mae mor bwysig ein bod yn cael hyn yn gywir”

Dywedodd y Cynghorydd David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai: “Mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod y cynlluniau cywir ar waith ar gyfer llety pobl hŷn, er mwyn i ni sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu bodloni ymhell i’r dyfodol.

“Fel awdurdod, mae gennym allu i ddylanwadu ar bethau o’r fath trwy brosesau cynllunio, polisïau tai a’r Cynllun Datblygu Lleol – ond oni bai ein bod yn gwybod beth mae pobl ei eisiau, ni fydd modd i ni ddefnyddio’r dylanwad hwnnw i’w lawn effaith.

“Mae hi mor bwysig felly fod pobl treulio pum munud er mwyn darparu’r wybodaeth rydym yn gofyn amdani yn yr arolwg yma.”

Peidiwch â methu allan – cymerwch ran

Mae’r manylion rydym eu hangen yn eithaf syml; eich math o lety presennol; y math o newidiadau rydych wedi’u gwneud – os o gwbl – i’ch eiddo i’w wneud yn fwy addas i’ch anghenion, ac os oes gennych unrhyw fwriad i symud, pa fath o lety fyddwch chi ei angen.

Mae’r arolwg ar gael ar-lein yma, a dim ond pum munud fyddwch chi ei angen i’w lenwi.

Mae pob ymateb i’r arolwg yn ddienw, oni bai eich bod angen rhagor o wybodaeth gennym ni – os felly mae’n debyg y bydd rhaid i chi ddarparu eich manylion.

Os oes gennych chi gwestiynau am yr arolwg, neu os hoffech chi ei weld mewn fformat arall, e-bostiwch olderpersonshousing@wrexham.gov.uk neu ffoniwch 01978 298993.

Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/community_services/flytipping.htm “] DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ydych chi’n un o’n tenantiaid? Edrychwch ar hwn... Ydych chi’n un o’n tenantiaid? Edrychwch ar hwn…
Erthygl nesaf Dewch i gamu i’r gorffennol yn Nigwyddiad Amgueddfa Wrecsam Dewch i gamu i’r gorffennol yn Nigwyddiad Amgueddfa Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Pobl a lle

Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod

Awst 17, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English