Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Tipio anghyfreithlon – beth sy’n digwydd?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 26-27 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Tipio anghyfreithlon – beth sy’n digwydd?
Y cyngor

Tipio anghyfreithlon – beth sy’n digwydd?

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 21, 2018 3:32 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Household Recycling Centres
RHANNU

Efallai eich bod wedi sylwi yn y cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar bod cynnydd wedi bod mewn tipio anghyfreithlon o gwmpas y fwrdeistref sirol. Ers y Nadolig rydym wedi delio â 250 o ddigwyddiadau gwahanol.

Mae llawer ohonoch chi’n ei chael hi’n anodd deall pam mae pobl yn mynd i gymaint o drafferth i daflu sbwriel yn hytrach na mynd ag ef i’r safle sgip lleol? Roeddem ninnau hefyd yn meddwl pam fod hyn yn digwydd.

Fly-tipping totally blocking this bridlepath behind Glascoed Hall between Ffrith & Bwlchgwyn (SJ 277545). Looked like builders waste. Disgusting. @wrexham @wrexhamcbc pic.twitter.com/nUS2ba6sMO

— Moz (@wxmmoz) June 19, 2018

Mae’n wir, mae rhai pobl yn rhoi sbwriel yn eu ceir yn fwriadol ac yn gyrru i leoliad tawel ac yn ei ollwng – gan adael i ni godi’r sbwriel a gwneud yr ardaloedd golygfaol arferol yn edrych yn dda unwaith eto. Os ydych chi’n gwybod am rywun sy’n gwneud hyn, trosglwyddwch yr wybodaeth i contact-us@wrexham.gov.uk.

Disgusting people WHY SPOIL SUCH A BEAUTIFUL AREA ????????????

— Pete Jones (@PeteJones130) June 20, 2018

NODWCH DIPIO ANGHYFREITHLON YMA

Ond mae yna enghreifftiau, llawer mewn gwirionedd, lle y gallech fod wedi talu i rywun fynd â’ch sbwriel ymaith heb sylweddoli eu bod wedi cymryd eich arian ac yna’n taflu’ch sbwriel lle bynnag y gallant. Gadael eich gadael chi yn atebol os gellir ei olrhain yn ôl atoch.

Os ydych chi’n talu i rywun gymryd eich sbwriel, gwnewch yn siŵr eu bod yn gyfreithlon. Dylent fod â Thrwydded Cludo Gwastraff, os nad oes ganddynt – peidiwch â’u defnyddio, gan eu bod yn debygol iawn o’i dipio’n anghyfreithlon ac fe fyddwch yn gyfrifol ac yn atebol am erlyniad os cânt eu dal neu os gellir ei olrhain yn ôl atoch chi.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae yna achosion syfrdanol o dipio anghyfreithlon ar y cyfryngau cymdeithasol ac mae’n costio ni i gael gwared arno. Rydym bob amser yn gwirio a oes unrhyw beth yn y sbwriel i adnabod y perchennog ac os felly, ni fyddwn yn meddwl ddwywaith am erlyn. Naill ai defnyddiwch gwmni cydnabyddedig neu defnyddiwch ein casgliad swmpus neu hyd yn oed ymweld ag un o’r tair canolfan ailgylchu gwastraff cartref. Peidiwch â’i adael i siawns a’r risg o gael eich erlyn oherwydd ymddygiad amheus rhywun arall.”

Mae’r Cyngor yn cynnig casgliad o wastraff gardd / organig ymyl y ffordd yn y bin gwyrdd, nid ydym yn cynnig unrhyw wasanaethau casglu pellach ar gyfer gwastraff gwyrdd, pridd neu rwbel.

Felly, os oes gennych chi neu unrhyw eitemau mawr o sbwriel yr hoffech gael gwared arnynt, gallech ystyried defnyddio ein gwasanaeth casgliadau swmpus. Rydym yn cymryd:

• Dodrefn (e.e. byrddau, cadeiriau, soffas, gwelyau, matresi, cypyrddau, desgiau, llyfrynnau, wardrobau)
• Nwyddau gwyn (e.e. oergelloedd, rhewgelloedd, poptai, sychwyr dillad, microdonnau)
• Offer garddio (e.e. peiriannau torri gwell bach, offer garddio, byrddau a chadeiriau gardd, barbeciws, beiciau)
• Carped (ychydig bach o garped ac is-orchudd (darnau heb fod yn fwy na maint 1 ystafell)
• Offer trydanol ac electronig (e.e. cyfrifiaduron, teledu)

Fel arfer, caiff casgliadau swmpus eu gwneud ar eich diwrnod casglu nesaf ar yr amod bod rhybudd o 2 ddiwrnod gwaith yn cael ei roi. Mae mwy o wybodaeth am gasgliadau swmpus i’w gweld yma

Gallwch hefyd ddefnyddio ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref am ddim:
• Mae Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Cartrefi Bryn Lane ar agor rhwng 8am a 8pm bob dydd o’r flwyddyn ar wahân i Ddydd Nadolig
• Mae Canolfannau Ailgylchu Plas Madoc a The Lodge ar agor rhwng 9am a 8pm

Fly Tipping
Tipio anghyfreithlon - beth sy'n digwydd?
Household Recycling Centres
fly tipping

Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Nodwch o’n hawdd ac yn gyflym ar-lein

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/community_services/flytipping.htm”] NODWCH DIPIO ANGHYFREITHLON [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ty Pawb Mae eich llais yn bwysig!
Erthygl nesaf Wrexham Tourist Information Centre Tourism Faint ydych chi wirioneddol yn ei wybod am Ganolfan Groeso Wrecsam?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor
Awst 25, 2026
Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst
Pobl a lle
Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Awst 25, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor

Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst

Awst 24, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English