Mae Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte ar raglen nesaf ein Bwrdd Gweithredol.
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo Uwchgynllun Technegol Basn Trefor a all arwain at wella’r cyfleusterau sydd ar gael i ymwelwyr, gan gynnwys parcio, yn ogystal â darparu profiad gwell i ymwelwyr a mynediad gwell i Safle Treftadaeth y Byd.
Mae’r Cyngor, Glandŵr Cymru a Solutia UK Ltd wedi bod yn gweithio efo’i gilydd i edrych ar y tir o gwmpas Basn Trefor ac wedi dosbarthu ardaloedd allweddol ar gyfer eu datblygu yn ystod y 10 i 15 mlynedd nesaf.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Mae’r Uwchgynllun yn nodi tir ar gyfer datblygiad defnydd cymysg, canolfan gweithgareddau ac addysg coedwig, dad-ddofi tir yr hen ardal weithgynhyrchu, maes parcio a chanolfan groeso, safle glampio/gwersylla, taith brigau’r coed “Telfords Treetops” a llwybr troed newydd ar hyd yr hen draphont reilffordd, gwelliannau i ardal Basn Trefor a Thaith Afon Dyfrdwy a all gynnwys pont newydd.
Gall yr Uwchgynllun, os caiff ei gymeradwy, fod yn gatalydd ar gyfer yr ardal o gwmpas Basn Trefor gan sbarduno aneddiadau cyfagos a chymunedau i feddwl am syniadau a gweithgareddau. Gall hefyd fod yn hwb i’r economi ehangach drwy greu buddion economaidd, cymdeithasol a diwylliannol.
Meddai’r Cyng. Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Yn hytrach na chanolbwyntio ar leiniau tir unigol, mae’r Uwchgynllun yn dod â chynigion ar gyfer yr ardal gyfan ynghyd. Os caiff ei gymeradwy bydd yn rhan bwysig iawn o reolaeth y safle i’r dyfodol a hoffaf ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith.”
Fe allwch chi weld yr Uwchgynllun yma.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG