Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Wedi cael galwad ffôn gan weithiwr olrhain cyswllt? Peidiwch â’i anwybyddu (gwarchodwch eich ffrindiau a’ch teulu)
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Wedi cael galwad ffôn gan weithiwr olrhain cyswllt? Peidiwch â’i anwybyddu (gwarchodwch eich ffrindiau a’ch teulu)
Y cyngorArall

Wedi cael galwad ffôn gan weithiwr olrhain cyswllt? Peidiwch â’i anwybyddu (gwarchodwch eich ffrindiau a’ch teulu)

Diweddarwyd diwethaf: Medi 7, 2021 11:47 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Peidiwch ag anwybyddu’r alwad ffôn
RHANNU

Mae pobl yn cael eu hatgoffa i ateb galwadau ffôn gan weithwyr sy’n olrhain cyswllt a dilyn y cyngor a roddir iddynt.

Cynnwys
  • Camddealltwriaeth
  • Chwarae rôl o hyd

Mae gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu Wrecsam yn dweud bod nifer fechan o bobl sy’n anwybyddu galwadau a chyngor yn rhoi eraill mewn perygl.

Mae Anthony, sy’n gweithio i’n tîm Profi, Olrhain, Diogelu, yn dweud:

“Er bod y cyfyngiadau wedi cael eu llacio ac mae’r rhaglen frechu wedi bod yn llwyddiant ysgubol, nid yw’r pandemig drosodd.

“Os ydych chi’n derbyn galwad ffôn gan weithiwr olrhain cyswllt, atebwch yr alwad a dilynwch y canllawiau a roddwyd i chi.

“Nid yw rhai pobl yn hoffi ateb eu ffôn, neu’n penderfynu anwybyddu ein cyngor, ond nid yw hynny’n syniad da, a gallwch roi pobl eraill mewn perygl drwy ledaenu’r feirws.

“Mae’r mwyafrif yn gwneud y peth cywir, ac yn derbyn beth a ddywedwn, ond mae angen i bawb wneud yr un fath.

“Peidiwch â’n hanwybyddu. Rydym yma i helpu i gadw Wrecsam yn ddiogel.”

5 peth gallwch chi wneud i helpu cadw Covid i ffwrdd o ysgolion yr hydref hwn

Camddealltwriaeth

Dros yr wythnosau diwethaf, mae nifer o bobl sydd wedi cael prawf positif wedi camddeall rheolau hunan-ynysu, ac yn meddwl nad oedd angen iddynt ynysu oherwydd eu bod wedi cael dau frechlyn.

  • Os ydych chi’n derbyn canlyniad positif i brawf llif unffordd, mae’n rhaid i chi hunan-ynysu ar unwaith, dylech drefnu prawf PCR a pharhau i hunan-ynysu oni bai eich bod yn derbyn prawf PCR negyddol.
  • Os ydych yn derbyn prawf PCR positif, mae’n rhaid i chi hunan-ynysu ar unwaith am 10 diwrnod. Bydd aelod o’n Tîm Profi, Olrhain, Diogelu yn cysylltu â chi i sicrhau eich bod yn derbyn y cyngor a’r dyddiadau hunan-ynysu cywir.
  • Os ydych chi’n cael eich nodi fel ‘cyswllt’ i rywun sydd wedi derbyn prawf positif, mae’n bosibl na fydd yn rhaid i chi hunan-ynysu os ydych wedi derbyn y ddau frechlyn mwy na 14 diwrnod cyn i chi ddod i gysylltiad â’r achos positif neu os ydych yn iau na 18 oed ac, yn y ddau achos, nad ydych yn profi symptomau.
  • Mae’n bwysig ateb y ffôn hyd yn oed os ydych chi’n credu eich bod wedi eich eithrio rhag hunan-ynysu, er mwyn i ni fedru rhoi’r cyngor a’r cyfarwyddyd cywir i helpu i’ch cadw chi ac eraill yn ddiogel.

I sicrhau nad ydych yn camddeall, dilynwch y cyngor a roddir i chi gan ein gweithwyr olrhain cyswllt – byddant yn sicr o’r rheolau, gan roi’r canllawiau cywir i chi.

Chwarae rôl o hyd

Mae gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu Wrecsam wedi darparu canllawiau i fwy na 41,911 o bobl ers cychwyn y pandemig, ac – ynghyd â’r rhaglen frechu – maent yn parhau i chwarae rhan fawr yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam dros Warchod y Cyhoedd:

“Rydw i’n falch iawn o’r rôl gweithwyr olrhain cyswllt yma yn Wrecsam. Maent yn gwneud gwaith anhygoel, ac mae’n bwysig ein bod ni oll yn dilyn eu cyngor os ydym ni’n cael galwad ffôn.

“Mae cymaint o fywydau wedi’u colli neu’u niweidio yn ystod y pandemig, ond drwy ddilyn y canllawiau cywir gallwch helpu i atal Covid-19 rhag lled a gwarchod eich ffrindiau, eich teulu a’ch cymuned.

“Efallai bod bywyd yn teimlo’n fwy normal ar hyn o bryd, ond nid yw’r feirws wedi diflannu, ac mae gan olrhain cyswllt rôl allweddol i’w chwarae wrth atal ei ledaeniad.”

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/”]TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Victorian Ydi hi’n rhy fuan i ddechrau sôn am y Nadolig?????
Erthygl nesaf 20 mph Eich Cyfle i Roi Eich Barn ar gynigion 20 mya Llywodraeth Cymru

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
ArallPobl a lle

Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English