Bob dydd yn ystod yr wythnos ailgylchu (24-30 Medi), rydym wedi bod yn cyhoeddi ffaith ailgylchu ar ein cyfryngau cymdeithasol.
Rhag ofn eich bod wedi eu methu, dyma drosolwg sydyn i chi…
GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!
Ffaith 1: Oeddech chi’n gwybod y gallwch ailgylchu eich bagiau te a’ch gronynnau coffi yn eich bocs gwastraff bwyd?
Ffaith 2: Gellir ailgylchu esgidiau rhedeg (neu unrhyw esgidiau) mewn mannau ailgylchu lleol.
Ffaith 3: Mae’r rhan fwyaf ohonom yn Wrecsam yn golchi a chywasgu ein tuniau, caniau a photeli plastig yn barod ar gyfer eu casglu.
Ffaith 4: Y llynedd fe ailgylchodd pobl yn Wrecsam 4,000 tunnell o wydr cymysg.
Ffaith 5: Gellir ailgylchu dros 80% o wastraff aelwydydd (bag du/bin olwyn).
Ffaith 6: Bydd ailgylchu 1 botel wydr ychwanegol yn atal rhyddhau CO2 sydd gyfystyr â’r hyn a ryddheir o 4,000 o geir i’r atmosffer.
Ffaith 7: Gellir mynd â sbectol (neu wydrau llygaid) i’ch optegydd lleol er mwyn eu hailddefnyddio dramor.
Ffeithiau am ailgylchu: Gellir mynd â sbectol (neu wydrau llygaid) i’ch optegydd lleol er mwyn eu hailddefnyddio dramor. #wrecsam #wythnosailgylchu #wythnosailgylchu2018 pic.twitter.com/ViQbTZsboC
— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) September 30, 2018
Sut i fod yn archarwr ailgylchu…mewn dau gam syml.
DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU