(Lluniwyd – Siwan Meirion, Rheolwr Effeithiolrwydd Addysg ac y Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Pobl am Gymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedau, gyda plant o’r ysgolion cynradd buddugol)
Fel y soniwyd yn y blog hwn o’r blaen, mae yna ddigon yn digwydd yn Wrecsam ac ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru i feithrin yr iaith Gymraeg.
Cafodd plant ysgol ar draws Wrecsam a Sir y Fflint eu gwobrwyo’n ddiweddar am eu hymdrechion gwych i ddefnyddio’r Gymraeg – ac nid yn yr ysgol yn unig.
Cafodd ysgolion ar draws Wrecsam a Sir y Fflint wobrau am eu hymdrechion i feithrin a hybu’r iaith Gymraeg.
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
Cafodd Gwobr Arian y Siarter Iaith ei chyflwyno i dair ysgol ar ddeg ar draws y ddwy fwrdeistref mewn seremoni yn Ysgol Bro Alun, gyda disgyblion ac athrawon yn mynd ar y llwyfan i dderbyn eu gwobrau.
Mae Siarter Iaith yn set o amcanion a amlinellwyd gan Lywodraeth Cymru gyda’r nod o annog mwy o ddefnydd cymdeithasol o’r iaith Gymraeg ymhlith pobl ifanc, gan sicrhau mai nid yn yr ystafell ddosbarth yn unig y defnyddir y Gymraeg.
Roedd pob un o’r ysgolion yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau i gael disgyblion i ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn amlach, a chafodd disgyblion gyfle i roi eu barn.
Yn ogystal â phobl bwysig o’r ddau awdurdod a chynrychiolwyr o Urdd Gobaith Cymru a Menter Iaith, roedd Lois Cernyw ac Oli Kemp, darlledwyr Heart FM hefyd wedi ymweld i’w llongyfarch.
Yr ysgolion a dderbyniodd y wobr arian:
Wrecsam
- Ysgol Bro Alun
- Ysgol Plas Coch
- Ysgol ID Hooson
- Ysgol Bodhyfryd
- Ysgol Bryn Tabor
- Ysgol Min y Ddol
- Ysgol Cynddelw
- Ysgol Llanarmon DC
Sir y Fflint
- Ysgol Croes Atti
- Ysgol Glanrafon
- Ysgol Terrig
- Ysgol Mornant
- Ysgol Gwenffrwd
Yn y seremoni, roedd plant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau gyda chydlynwyr o’r Urdd.
Meddai’r Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg, Cyngor Wrecsam: “Llongyfarchiadau i’r holl ysgolion hynny wnaeth dderbyn y wobr Siarter Iaith – y staff a’r disgyblion.
“Maent wedi gwneud llawer o ymdrech ar gyfer eu hamcanion Siarter Iaith, ac mae pob ysgol wedi gweithio’n eithriadol o galed i sicrhau fod disgyblion yn defnyddio’r Gymraeg ymhlith ei gilydd yn ogystal ag yn yr ystafell ddosbarth. Mae’r disgyblion hefyd wedi cael cyfle i ddysgu mwy am ddiwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg a sut y gallant gyfrannu a dysgu o’r ddau.”
DYWEDWCH EICH DWEUD GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.