Rydym ni’n parhau i gyhoeddi ffaith am ailgylchu ar ein tudalennau Facebook a Twitter, bob dydd ym mis Mawrth.
Yn ddiweddar bu i ni gyhoeddi blog, oedd yn mynd â chi drwy’r deg ffaith gyntaf, a rŵan fe awn â chi’n sydyn drwy’r deg nesaf…
EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…
Ffaith 1: Cafodd 650 tunnell o garpedi eu hailgylchu yn Wrecsam y llynedd.
Ffaith 2: Cofiwch wagio a glanhau unrhyw fwyd yn llwyr allan o boteli a jariau cyn eu rhoi yn eich cynwysyddion ailgylchu (gall unrhyw fwyd fynd i mewn i’ch cadi bwyd).
Ffaith 3: Bydd ailgylchu 1 botel wydr ychwanegol yn atal rhyddhau CO2 sydd gyfystyr â’r hyn a ryddheir o 4,000 o geir i’r atmosffer.
Ffaith 4: Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi wagio bwyd sydd wedi mynd heibio i’w ddyddiad i mewn i’ch cadi gwastraff bwyd?
Ffeithiau am ailgylchu: Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi wagio bwyd sydd wedi mynd heibio i’w ddyddiad i mewn i’ch cadi gwastraff bwyd? pic.twitter.com/ylJ8eXIT4w
— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) March 14, 2019
Ffaith 5: Gellir mynd â sbectol (neu wydrau llygaid) i’ch optegydd lleol er mwyn eu hailddefnyddio dramor.
Ffaith 6: Wedi cael cinio rhost neu borc i de? Rhowch yr esgyrn yn eich cadi gwastraff cegin 🙂
Ffaith 7: Fe ailgylchodd preswylwyr Wrecsam dros 640 tunnell o ganiau y llynedd.
Ffaith 8: A yw eich cynwysyddion ailgylchu yn orlawn bob wythnos? Archebwch gynwysyddion ychwanegol am ddim (peidiwch ildio i’r temtasiwn o roi unrhyw ddeunydd ailgylchu yn eich bin sbwriel).
Ffeithiau am ailgylchu: A yw eich cynwysyddion ailgylchu yn orlawn bob wythnos? Archebwch gynwysyddion ychwanegol am ddim: https://t.co/94HDa1KIcK (peidiwch ildio i’r temtasiwn o roi unrhyw ddeunydd ailgylchu yn eich bin sbwriel) #wrecsam #ailgylchu pic.twitter.com/tpFC2DZ7L1
— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) March 18, 2019
Ffaith 9: Mae modd ailgylchu caniau dur 100% a gallant gael eu hailgylchu dro ar ôl tro. Gallant hyd yn oed gael eu troi’n feiciau.
Ffaith 10: Ydych chi wedi dod o hyd i fwyd heibio’i ddyddiad yn eich oergell? Gwagiwch y bwyd i’ch cadi (hyd yn oed y llwydni!), golchwch y potyn, twb neu drê plastig, a’i roi yn eich cynhwysydd ailgylchu.
Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…
COFRESTRU