Gallwch bellach ddweud eich dweud ar ein Cynllun Creu Lleoedd, sydd yn ymwneud â gwella canol Wrecsam, ac rydym ni’n gofyn i chi ddylanwadu sut y dylai edrych, teimlo a gweithio.
Yn benodol, mae arnom eisiau i’r cynllun hyrwyddo dyluniad a datblygiad gwell, a helpu i sefydlu defnydd a gweithgareddau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd mwy deniadol yng nghanol y ddinas.
Y nod yw gwneud Wrecsam yn brif gyrchfan i bobl ar draws ardal Wrecsam, fel y lle i siopa, gweithio, dysgu, a mwynhau diwylliant ac adloniant. Canolfan sydd yn rhoi hyder ac anogaeth i ddatblygwyr, busnesau a sefydliadau i fuddsoddi yn y ddinas.
Yn union fel mae economi ehangach Wrecsam wedi newid dros yr ugain mlynedd ddiwethaf, mae ar ganol Wrecsam angen mynd drwy gyfnod o newid hefyd.
Mae gwaith eisoes ar y gweill, i ymateb i batrymau gwahanol o ran siopa a byw, ac i ehangu ei asedau diwylliannol, masnachol a chymunedol.
Fodd bynnag, mae heriau yn wynebu canol y ddinas, ac mae’r strategaethau a phrosiectau arfaethedig a nodir yn y Cynllun yn ceisio ymdrin yn uniongyrchol â nhw.
Mae yna bedair ardal wahanol, a phob un wedi’i diffinio gan ei gymeriad trefol, defnydd tir presennol a’u potensial ar gyfer newid.
- Yr Hen Dref – wedi’i diffinio gan ei threftadaeth, patrwm strydoedd a defnydd tir manwerthu a diwylliannol. Y nod yw dathlu hunaniaeth Wrecsam drwy barhau i wella ac adfer cymeriad y treflun hanesyddol a chreu cyrchfan yng “nghalon hanesyddol” y ddinas.
- Y Rhan Ddinesig – wedi’i diffinio gan ei champws agored, gwyrdd a chrynhoad o gyfleusterau dinesig a chyflogaeth.
- Coridor Stryt y Rhaglaw – wedi’i ddiffinio gan ei ffurf linellol a’i gysylltiad â’r orsaf rheilffordd a’r buddsoddiad ym Mhorth Wrecsam.
- Ffrwd Gwenfro – wedi’i diffinio gan ei ffurf drefol dameidiog a safleoedd mawr gwag, neu heb gael eu defnyddio.
I ddweud eich dweud am yr ardaloedd hyn, cliciwch yma.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor, “Mae gan Wrecsam hunaniaeth unigryw a balch, a bellach mae pobl yn siarad am y ddinas ym mhob twll a chornel o’r byd yn dilyn y cais ar gyfer Dinas Diwylliant a llwyddiant Clwb Pêl-droed Wrecsam gyda’u perchnogion newydd o Hollywood.
“Mae gennym ni bellach rhagor o gyfleoedd i fuddsoddi yng nghanol y ddinas a buaswn i’n annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a’n helpu ni i fod â Chynllun sydd yn manteisio ar y cyfleoedd hynny.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio, “Rydym ni eisiau canol y ddinas sydd yn canolbwyntio ar bobl, lle gall ymwelwyr aros ac ymlacio, dod â’u teuluoedd a mwynhau popeth sy’n cael ei gynnig.
“Mae hi’n gyfnod heriol iawn ond rydym ni’n hyderus y gallwn fod â chanol y ddinas sydd yn brif gyrchfan i bobl ar draws y rhanbarth.”
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD