Yr wythnos nesaf gofynnir i’n Bwrdd Gweithredol arnodi gweledigaeth i Wrecsam sydd wedi cael ei rhoi at ei gilydd gan grŵp o Arweinwyr Dinesig o amryw o wahanol sectorau yn y fwrdeistref sirol.
Mae’r ddogfen “Pwrpas Cyffredin Wrecsam i anelu at ddod â buddsoddiad pellach i Wrecsam” yn galw ar Arweinydd y Cyngor a Gweinidogion Llywodraeth Cymru i:
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
- addo cefnogi a chyfrannu tuag at ddiffinio, siapio ac ymestyn y “pwrpas cyffredin” ymhellach
- dod yn bartneriaid, buddsoddwyr a chefnogwyr y “pwrpas cyffredin”; a
- chynorthwyo i ddarparu cynnig Wrecsam i gynulleidfa traws sector, ehangach o bartneriaid
Mae’r weledigaeth yn cydnabod cryfderau canol y dref a’i gwendidau hefyd ac mae’n cyflwyno wyth syniad i ymestyn y cryfderau hynny ac i fynd i’r afael â’r gwendidau.
- yn gyntaf mae’n cynnig tyfu entrepreneuriaeth, arloesedd a pherchnogaeth
- datrysiadau arPwrpas Cyffrediniannol i wneud gwaith dymchwel a buddsoddi mewn eiddo
- cronfa fenthyg entrepreneuraidd ac arloesi
- cysylltu canol y dref â’i chymunedau a’i hamgylchedd
- canol tref gyda phyrth a llwybrau clir, a gofodau diogel a bywiog
- canolbwynt amlycach a safonol i ganol y dref
- llety preswyl o safon uchel
- ac yn olaf creu prosbectws “pwrpas cyffredin” o safon uchel gyda Llywodraeth Cymru yn bartner
“Darparu’r Pwrpas Cyffredin”
Mae’r ddogfen yn nodi y bydd cyflawni’r pwrpas cyffredin yn meithrin hyder yn ein dyfodol ac ymdeimlad o le yn Wrecsam. Bydd Cam 1 yn creu’r amgylchedd trwy ymgysylltu creadigol, cronfa arloesi, prosbectws ‘pwrpas cyffredin’ gyda brand clir
Bydd Cam 2 yn adeiladu’r isadeiledd – craidd o safon uchel, gwella pyrth a marchnata.
Bydd Cam 3 yn trawsnewid y dref trwy fuddsoddi mewn eiddo a chreu cysylltiadau rhwng y dref a phentrefi a’r Ystad Ddiwydiannol.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Rydw i’n edrych ymlaen at gyflwyno’r adroddiad hwn ac i weithio mewn partneriaeth â’r grŵp os caiff yr adroddiad ei ardystio. Mae’r weledigaeth yn anelu at gyflenwi a dod â chynlluniau eraill at ei gilydd ar gyfer canol y dref er mwyn creu canol tref bywiog sy’n barod am fuddsoddiad pellach. ”
Aelodau Grŵp Arweinyddiaeth Ddinesig Wrecsam yw:
- Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Coleg Cambria
- Banc Datblygu Cymru
- Net World Sports
- Heddlu Gogledd Cymru
- Eglwys Sant Silyn
- The Bank
- The Lemon Tree
- CPD Wrecsam
- Wrexham Business Professionals
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
- Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN