Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Y ‘man diogel’ a helpodd dros 300 o bobl nos Sadwrn ddiwethaf… a pham bod arnoch chi angen gwybod amdano
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Y ‘man diogel’ a helpodd dros 300 o bobl nos Sadwrn ddiwethaf… a pham bod arnoch chi angen gwybod amdano
Pobl a lleY cyngor

Y ‘man diogel’ a helpodd dros 300 o bobl nos Sadwrn ddiwethaf… a pham bod arnoch chi angen gwybod amdano

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 6, 2017 12:19 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Hafan Y Dref
RHANNU
Yfed Llai Mwynhau Mwy  Ysgrifennwyd yr erthygl hon fel rhan o gyfres o negeseuon am yr ymgyrch #yfedllaimwynhaumwy

Rydym ni’n gobeithio na fydd arnoch chi angen ei ddefnyddio ond, os ydi’ch noson allan yn mynd o chwith, mae yna le y gallwch chi fynd iddo i gael help.

Cynnwys
      •   Ysgrifennwyd yr erthygl hon fel rhan o gyfres o negeseuon am yr ymgyrch #yfedllaimwynhaumwy
  • Lle mae’r ganolfan?
  • Sefyllfaoedd Peryglus
  • Noson allan ddiogel a llawn hwyl

Hafan y Dref yw canolfan les Wrecsam gyda gwirfoddolwyr o’r Groes Goch Brydeinig yno i’ch helpu. Mae’n cynnig lle diogel i bobl sy’n teimlo’n ddiamddiffyn neu’n sâl ar noson allan yn y dref.

Wedi colli’ch ffrindiau? Dim batri ar ôl yn eich ffôn i’w ffonio nhw? Yn feddw gaib a dim ffordd adref?

Peidiwch â phoeni, mae’r ganolfan yma i’ch helpu chi.

Lle mae’r ganolfan?

Mae Hafan y Dref yn rhan o’r bloc toiledau ar waelod Allt y Dref – gyferbyn â chlwb nos South. Mae’n hawdd dod o hyd iddi.

Weithiau mae rhai pobl yn dod i mewn eu hunain. Dro arall mae’r heddlu, gweinidogion stryd ac ati, yn helpu pobl i mewn.

Mae staff drysau a gweithredwyr TCC hefyd yn gallu gwneud galwad radio am gymorth os oes unrhyw ddigwyddiad.

Mae’r ganolfan yn cynnig gwasanaeth brysbennu a chymorth cyntaf brys os ydych chi wedi brifo neu’n dioddef ar ôl yfed gormod.

Mae’r gwirfoddolwyr hefyd yn cynnig cefnogaeth emosiynol ac ymarferol os ydych chi’n teimlo’n ddiamddiffyn.

Ond, yn fwy na dim, dydyn nhw ddim yn eich beirniadu.  Os oes arnoch chi angen help yn unig, yna byddan nhw’n eich helpu.

Agorodd Hafan y Dref fis Rhagfyr 2015 a nos Sadwrn ddiwethaf bu i’r staff helpu dros 300 o bobl.

PEIDIWCH BYTH   METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

Sefyllfaoedd Peryglus

Meddai Michelle McBurnie, o’r Groes Goch Brydeinig: “Rydw i’n gweithio yn Hafan y Dref yn rheolaidd.

“Dwi’n cofio un noson cafodd y tîm ei alw gan staff drws i ymateb i ddyn a oedd yn anymwybodol ar y palmant gyferbyn â’u heiddo.

“Ar ôl i ni gyrraedd roedd ei bartner ar y ffôn yn galw am gymorth gan y gwasanaeth ambiwlans.

“Roedd yn amlwg nad oedd yn sâl ond, yn hytrach, wedi meddwi.  Bu i’r gwirfoddolwyr ganslo’r ambiwlans a’i helpu i’r ganolfan les lle cafwyd gafael ar ei fam i ddod i’w nôl.

“Drwy yfed llai ar eich noson allan, fe allwch chi atal eich hun rhag mynd i sefyllfaoedd peryglus yn nes ymlaen.”

Yn aml iawn mae pobl yn dod i’r ganolfan i gael ychydig o ‘seibiant’. Maen nhw’n cael paned neu’n eistedd i lawr, neu’n gwella ar ôl yfed gormod.

Mae rhan fwyaf o’r achosion yn ymwneud ag alcohol. Wedi dweud hynny, mae’r staff yn darparu cefnogaeth a chyngor i bobl gyda phroblemau iechyd meddwl hefyd.

Mae’r ganolfan yn canolbwyntio ar ddarparu ‘buddion cymdeithasol’, gyda phobl yn derbyn cefnogaeth pan fydd arnyn nhw ei hangen, a negeseuon iechyd y cyhoedd yn cael eu lledaenu. 

Noson allan ddiogel a llawn hwyl

Mae gwirfoddolwyr y ganolfan yn gweithio gyda llawer o sefydliadau gwahanol fel Cyngor Wrecsam, gweinidogion stryd Wrecsam, busnesau lleol, yr heddlu a’r gwasanaethau iechyd.

Maen nhw’n helpu i wneud yn siŵr bod pobl yn manteisio ar fywyd nos Wrecsam ac yn cael noson allan ddiogel a llawn hwyl.

Yn ddiweddar bu i Gyngor Wrecsam a’i bartneriaid lansio ymgyrch #YfedLlaiMwynhauMwy, er mwyn annog pobl ifanc i edrych ar ôl eu hunain drwy yfed llai cyn mynd allan… yn ogystal â chadw cyfrif o faint maen nhw’n yfed unwaith maen nhw’n cyrraedd clybiau a thafarndai Wrecsam.

Mae’n wir, wrth yfed llai – a gwybod lle mae’ch terfynau – fe allwch chi gael noson allan lawer iawn gwell.

Mae Hafan y Dref ar agor o 10.30pm tan 4.30am ddydd Sadwrn, ac mae sifftiau ychwanegol dros y Nadolig a’r Pasg.

Mae’r ganolfan wedi ei hariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am ymgyrch #YfedLlaiMwynhauMwy cliciwch yma.

Peidiwch byth â  methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Blwch Post Siôn Corn Cafe in the Corner yn Cynnig Seibiant i’w Groesawu Blwch Post Siôn Corn Cafe in the Corner yn Cynnig Seibiant i’w Groesawu
Erthygl nesaf Diwrnod o Archwilio Trysorau i’r Disgyblion Diwrnod o Archwilio Trysorau i’r Disgyblion

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Car park
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌

Awst 17, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Pobl a lle

Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod

Awst 17, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English