Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydych chi eisiau dechrau ymarfer corff dros yr haf? Edrychwch ar hyn…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Ydych chi eisiau dechrau ymarfer corff dros yr haf? Edrychwch ar hyn…
Pobl a lleY cyngor

Ydych chi eisiau dechrau ymarfer corff dros yr haf? Edrychwch ar hyn…

Diweddarwyd diwethaf: Mai 30, 2018 3:06 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Ydych chi eisiau dechrau ymarfer corff dros yr haf? Edrychwch ar hyn...
RHANNU

Wrth i’r haul dywynnu mwy a mwy dros yr haf, efallai eich bod yn dechrau meddwl am ymarfer corff a chadw’n ffit.

Ydych chi’n defnyddio un o’n Canolfannau Hamdden a Gweithgareddau ar draws y fwrdeistref sirol? Neu ydych chi’n ystyried ymuno?

Fe allwn ni a’n partneriaid Freedom Leisure, sydd yn rhedeg ein Canolfannau Hamdden a gweithgareddau, yn ogystal â’n safleoedd defnydd deuol a chaeau 3G, eich helpu i gadw’n ffit dros yr haf.

PROBLEM GYDA CHEUDWLL? DWEDWCH WRTHYM NI AR-LEIN.

Fe wnaethom gydweithio rhwng 2016 a 2017, gan wario dros £2.7miliwn yn gwella pob canolfan a safle, a chafodd mwy na £1.5m ei fuddsoddi yng Nghanolfan Byd Dŵr yng nghanol y dref.

Roedd hyn yn cynnwys offer newydd ym mhob safle, yn ogystal â champfa cwbl newydd yng Nghanolfan Byd Dŵr ac ystafell sbinio modern newydd gydag offer MyRide.

Gwnaed gwelliannau yng Nghanolfan Hamdden y Waun, Queensway a Gwyn Evans hefyd, yn ogystal â’r safleoedd defnydd deuol yn Ysgol Clywedog, Ysgol Morgan Llwyd, Ysgol Uwchradd Rhosnesni ac Ysgol Uwchradd Darland.

Yn ddiweddar, fe aeth y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi, sydd â chyfrifoldeb dros Hamdden, i ymweld â phob canolfan.

Bodlon gyda’r gwaith a gyflawnwyd

Dywedodd y Cynghorydd Atkinson: “Doeddwn i ddim yn y swydd yma pan ddechreuodd y gwaith, felly un o fy mlaenoriaethau ar ôl cael fy mhenodi oedd ymweld â phob safle Hamdden a Gweithgaredd, caeau 3G a chanolfannau defnydd deuol, er mwyn gweld y gwaith y mae Freedom Leisure wedi’i wneud.

“Ar ôl cael y cyfle i ymweld â phob safle fy hun a siarad gyda staff a chwsmeriaid, dwi’n falch iawn gyda’r gwaith sydd wedi cael ei wneud, fel y mae’r defnyddwyr.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Atkinson: “Buaswn hefyd yn cynghori defnyddwyr y canolfannau i ystyried Ymaelodi ag Wrecsam Gysylltiedig ganFreedom Leisure, sydd yn eu galluogi i ymuno yn un cyfleuster a defnyddio’r gweddill.

“Byddai hyn yn golygu y gallant ddefnyddio pum campfa, tri phwll nofio a mwy na 100 o ddosbarthiadau ymarfer corff gwahanol ym mhob un o gyfleusterau Freedom.

“Fe fyddai hyn yn arbennig o ddefnyddiol i unrhyw un sy’n byw ger un cyfleuster ac yn gweithio ger un arall, er enghraifft unrhyw sy’n teithio o’r Waun i ganol tref Wrecsam bob dydd”.

Dywedodd Andy Harris, Pennaeth Rhanbarthol am Freedom Leisure “Oedd o’n bleser i ddangos y Cynghorydd Atkinson o gwmpas ein canolfannau, ac ers y gwelliannau maent yn cynnal rhai o’r cyfleusterau a’r pecyn orau yng Nghymru.

“Ein hamcan allweddol wrth redeg y cyfleusterau yma ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yw cefnogi Wrecsam actif, ac mae’r canolfannau yn cynnal rhywbeth i bawb – pe bai’ch oedran, gallu, dewis neu incwm.”

I gofrestru ar gyfer Aelodaeth Wrecsam Gysylltiedig, ffoniwch Canolfan Byd Dŵr ar 01978 297300 neu gallwch gofrestru trwy ddefnyddio’r ddolen hon.

Problem gyda cheudwll? Dwedwch wrthym ni yn hawdd ac yn gyflym ar-lein.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/online_w/eforms/pothole.htm “] DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol O dan 35 oed? Meddwl mynd ar yr ysgol dai? Dweud eich dweud ..... O dan 35 oed? Meddwl mynd ar yr ysgol dai? Dweud eich dweud …..
Erthygl nesaf Cymrwch sylw grwpiau chwaraeon! Rownd nesaf o gronfa Cist Gymunedol ar gael rŵan Cymrwch sylw grwpiau chwaraeon! Rownd nesaf o gronfa Cist Gymunedol ar gael rŵan

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle

Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.

Hydref 1, 2026
the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English