Bydd y gwasanaeth casglu gwastraff gardd newydd yn dechrau ddiwedd y mis, felly os nad ydych wedi adnewyddu eto ar gyfer 2021/22 dylech wneud hynny’n fuan fel nad ydych yn methu unrhyw gasgliadau.
Os ydych eisiau adnewyddu eich casgliadau ewch i wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd a dilynwch y cyfarwyddiadau syml i dalu amdanynt. Dyma’r ffordd gyflymaf a hawsaf o adnewyddu a gallwch wneud ar unrhyw adeg sy’n gyfleus i chi.
Mae’r gost ar gyfer 2021/22 wedi ei rewi ar £25 y flwyddyn ar gyfer bin gwyrdd ac mae’r gwasanaeth yn para o ddydd Llun, 30 Awst 2021, tan ddydd Gwener, 2 Medi 2022.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn falch ein bod wedi rhewi cost y gwasanaeth ar £25 fesul bin gwyrdd y flwyddyn, sy’n parhau yn llai na’r gost gan nifer o awdurdodau eraill yng Nghymru a Lloegr.”
Talwch ar-lein ble yn bosibl
Dywedodd Darren Williams, Prif Swyddog Amgylcheddol a Thechnegol: “Mae nawr yn bosib adnewyddu, a’r ffordd orau a chyfleus i dalu am y gwasanaeth yw ar-lein yn www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd.”
“Os nad oes modd i chi dalu ar-lein gallwch ffonio Gwasanaethau Stryd er mwyn gwneud taliad â cherdyn, ond mae’n debyg y bydd oedi wrth i’ch galwad gael ei ateb. Rydym yn argymell talu am y gwasanaeth ar-lein ble yn bosibl.”
DIWEDDARIAD: Mae ein llinellau ffôn yn parhau i fod yn hynod o brysur, felly rydych yn cael eich cynghorir i dalu ar www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd i osgoi gorfod aros yn hir iawn. Mae talu ar-lein yn hawdd, sydyn a chyfleus.
Sticeri newydd ar gyfer 2021/22
Bydd preswylwyr a fydd yn adnewyddu’r gwasanaeth yn derbyn sticer newydd. Bydd angen rhoi’r sticer yma mewn lle clir ar gaead y bin er mwyn sicrhau casgliadau o 30 Awst. Gadewch o leiaf 10 diwrnod gweithio o’r dyddiad yr ydych yn cofrestru, er mwyn derbyn pecyn y sticer newydd.
Wedi adnewyddu ond heb gael eich sticer newydd eto?
Peidiwch â phoeni. Bydd pawb sy’n ymuno’n derbyn eu pecyn sticeri ym mis Awst cyn i’r gwasanaeth ddechrau ddiwedd y mis.
Os na fydd eich sticer yn cyrraedd mewn pryd ar gyfer eich casgliad cyntaf, rhowch eich bin allan ar eich diwrnod casglu yr un fath gan y gall ein criwiau ddefnyddio’r dechnoleg yn y wagen ailgylchu i wirio a ydych wedi talu, fel y gellir casglu eich gwastraff gardd.
Gallwch ein helpu i sicrhau y byddwch yn derbyn eich sticer mewn pryd ar gyfer casgliad cyntaf 2021/22 trwy dalu am y gwasanaeth mewn da bryd.
Ni dderbynnir taliadau arian parod na siec
Y flwyddyn ddiwethaf, anfonodd sawl cwsmer arian parod neu siec atom ni, er mwyn ceisio talu am y gwasanaeth. Mae’n rhaid i ni bwysleisio nad oes modd i ni dderbyn y math yma o daliadau.
Pryd mae gwasanaeth 2020/21 yn dod i ben?
Fel yr ydych yn cofio, roedd oedi yn nyddiad cychwyn y gwasanaeth y llynedd oherwydd pandemig y coronafeirws ac felly estynnwyd y tanysgrifiadau tan 31 Awst, 2021.
Os ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth yma, ond ddim yn adnewyddu ar gyfer 2021/22 ni fyddwn yn casglu eich bin(iau) gwyrdd o 31 Awst.
Nid wyf eisiau adnewyddu’r gwasanaeth – a wnewch chi gael gwared ar fy min gwastraff gardd?
Gellir cael gwared ar unrhyw finiau gwastraff gardd diangen os gofynnwch chi. Gallwch wneud cais am gael gwared ar fin gwastraff gardd trwy ddefnyddio ein ffurflen ‘bin neu focsys newydd’.
Ar ôl gofyn am gael gwared â’r bin, gall gymryd nifer o wythnosau i’r bin gael ei gasglu. Yn y cyfamser, gwnewch yn siŵr bod eich bin yn parhau i fod yn wag, yn hygyrch, ond heb ei adael allan gan achosi rhwystr.
Efallai y byddai’n werth cadw gafael ar eich hen fin gwastraff gardd am y tro, oherwydd os ceir gwared ar eich bin gwastraff gardd a’ch bod chi’n newid eich meddwl yn y dyfodol, codir tâl am un newydd.
Beth allai ei wneud gyda fy ngwastraff gardd os nad ydw i eisiau talu am y gwasanaeth casglu?
Gallwch fynd â’ch gwastraff gardd i un o’n canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref (yn rhad ac am ddim). Neu, fe allech gompostio’r gwastraff gardd gartref.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN