Ydych chi’n gweithio yn y diwydiant adeiladu? Darllenwch hwn…
Mae cwmnïau adeiladu yn Wrecsam a gweddill Gogledd Cymru’n cael eu gwahodd i ddysgu mwy am gyfleoedd am gontractau gyda chynghorau lleol.
Bob blwyddyn, mae’r chwe chyngor yng Ngogledd Cymru – Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn – yn contractio cwmnïau i wneud pob math o waith adeiladu, o drwsio a chynnal a chadw hyd at brosiectau adeiladu newydd sbon.
Ond i fod yn gymwys yn y dyfodol, bydd angen i gwmnïau fod ar restr o gyflenwyr sydd wedi’u cymeradwyo ymlaen llaw o’r enw Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru.
Oes gennych chi ddiddordeb?
Mae digwyddiadau gwybodaeth yn cael eu cynnal yn yr Wyddgrug a Chaernarfon ac mae’r cynghorau’n benodol awyddus i siarad â busnesau bach a chanolig.
Os gallai eich cwmni chi gyflawni prosiectau sydd werth rhwng £250,000 a £2 filiwn, dylech ddod i gael gwybod mwy.
Cewch wybod pa fath o waith a allai fod ar gael, a sut i ymgeisio i fod ar y fframwaith.
Mae’r digwyddiadau’n cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol:
- Dydd Mawrth, 6 Mawrth yng Ngwesty Beaufort Park yn yr Wyddgrug (CH7 6RQ), yn dechrau am 8am.
- Dydd Iau, 8 Mawrth yng Ngwesty’r Celtic Royal yng Nghaernarfon (LL55 1AY), yn dechrau am 8am.
Dim ond i un digwyddiad mae angen i chi fynd, a bydd yn para tua dwy awr.
Nid oes angen archebu lle, dim ond dod yno ar y diwrnod.
Er hynny, os hoffech chi gael gwybod mwy ymlaen llaw, ffoniwch John Humphreys ar 07831 515525 neu Rob Beattie ar 07590 710700.
Cefnogaeth am ddim i’ch busnes
Cewch hefyd glywed am gefnogaeth sydd ar gael am ddim drwy raglen Dyfodol Adeiladu Cymru, a bydd staff y rhaglen ar gael i gynnig cyngor un-i-un i chi.
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT