Cymhorthydd Taliadau Tai
Mae’n gwasanaeth tai yn gyfrifol am reoli 11,500 o dai cyngor, ac rydym yn chwilio am rywun i brosesu anfonebau ac ad-daliadau, yn ogystal â dyletswyddau eraill. Os oes gennych beth profiad o ddyletswyddau clerigol a sgiliau cyfathrebu da hoffem glywed gennych. Cewch fwy o wybodaeth am y swydd yma…
Dyddiad cau 13/12/2019
Swyddog Cyswllt Tenantiaid
Rydym yn chwilio am rywun i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael gwybod beth sy’n digwydd, ac yn teimlo’n fodlon ar ôl i waith gael ei wneud ar eu cartrefi. Bydd arnoch angen bod yn ddynamig ac yn egnïol i’r swydd hon… ydych chi’n ddigon da?
Dyddiad cau 13/12/2019
Cymhorthydd Dysgu – Lefel 1
Yn gweithio yn Ysgol Rhiwabon, mae’r rôl hon yn golygu cefnogi myfyriwr penodol i gael mynediad at ddysgu, a darparu cymorth cyffredinol i athro/athrawes y dosbarth. Mae angen rhywun sy’n hyblyg arnom… ai chi yw’r person yma?
Dyddiad cau 11/12/2019
Gweithwyr Cefnogi Plant y Tu Allan i Oriau Arferol
Mae’r Adran Gofal Cymdeithasol am benodi unigolion proffesiynol, ymrwymedig a gofalgar i hyrwyddo rhianta cadarnhaol a chefnogi teuluoedd. Bydd hyn yn golygu gweithio y tu allan i oriau swyddfa arferol. Ydych chi eisiau gwybod mwy?
Dyddiad cau 13/12/2019
Wel, a oedd gennych ddiddordeb yn unrhyw un o’r swyddi hyn? Sicrhewch eich bod yn cadw llygad o dro i dro…mae ein tudalen swyddi yn cael ei diweddaru’n rheolaidd ????
Yn aml, mae swyddi gwag mewn addysg, tai, glanhau, gwasanaethau i gwsmeriaid, TG a gofal cymdeithasol, i enwi ond y rhai!
Gall gweithio i’r cyngor fod yn ddewis gyrfaol da – mae fel arfer yn cynnwys pensiwn, lwfans gwyliau da, a sefydlogrwydd cymharol.
Eisiau gweld mwy?
GWELD Y SWYDDI DIWEDDARAF