Wyddoch chi fod ein gweithwyr casglu sbwriel ac ailgylchu’n dechrau eu gwaith ben bore? Mae’n bwysig cadw hynny mewn cof fel nad ydych chi’n colli casgliad.
Fe ddylech chi roi eich biniau a’ch deunydd ailgylchu ar y palmant erbyn 7.30am ar eich diwrnod casglu. Heb wneud hynny, efallai y collwch chi’r lorri.
Fodd bynnag, dylech geisio bod yn ystyriol a pheidio â gosod eich biniau / gwastraff ailgylchu ar y stryd mewn modd a allai atal pramiau neu eraill rhag defnyddio’r pafin.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Hyd yn oed os yw’r lorri’n dod heibio’ch tŷ chi’n hwyrach fel arfer, byddwn yn amrywio ein llwybrau casglu o bryd i’w gilydd.
Felly’r unig ffordd i osgoi rhoi’ch biniau a deunydd ailgylchu allan yn rhy hwyr yw eu gosod ar y palmant am 7.30am.
Ddim yn un sy’n codi’n gynnar? Os felly, rhowch bopeth allan y noson cynt 😉
Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant, “Mae’n bwysig ein bod i gyd yn rhoi ein biniau a deunydd ailgylchu allan i’w casglu, ond nid pawb sy’n gwybod fod ein gweithwyr yn dechrau arni’n gynnar iawn yn y bore.
“Mae arnom angen i’ch biniau a deunydd ailgylchu fod yn barod inni erbyn 7.30am ar eich diwrnod casglu… os rhowch chi nhw allan yn hwyrach, efallai y bydd y lorri wedi dod heibio’ch stryd chi’n barod.”
Gellir gwirio eich diwrnod casglu yma!
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION