Yn dilyn llwyddiant cynllun Grant Busnes Wrecsam y Gronfa Ffyniant Gyffredin, mae’r Tîm Busnes a Buddsoddi yn gweithio mewn partneriaeth â Busnes Cymru ac rydyn ni’n gyffrous i gynnig gweithdy ymarferol sy’n addas i ddechreuwyr. Mae hwn wedi’i ddylunio i helpu busnesau i gael gafael ar gymorth ymarferol i lywio’r broses ysgrifennu cynigion grant.
Ydych chi’n barod i fynd â’ch busnes i’r lefel nesaf?
Mae cael gafael ar gyllid yn hanfodol ar gyfer twf, arloesi a chyflawni nodau eich busnes. Bydd y Gweithdy Ysgrifennu Grantiau hwn yn trafod yr hanfodion ac yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i chi lywio’r tirlun cyllido a llunio cynigion cymhellol, i’ch cefnogi i anelu at eich targed cyllido.
Dysgwch gan y tîm – bydd y gweithdy yn rhoi arweiniad ymarferol ac yn cynnwys:
- Deall beth yw grant
- Sut i ddod o hyd i’r grant cywir i chi
- Paratoi i ysgrifennu cynnig grant
- Ysgrifennu cynnig grant cymhellol
- Monitro eich cais am grant
Manylion y gweithdy
Dyddiad: 25 Chwefror 2025
Amser: 5-8pm
Lleoliad: Tŵr Redwither, Stad Ddiwydiannol Wrecsam.
Dyddiad: 6 Mawrth 2025
Amser: 10am-1pm
Lleoliad: Tŵr Redwither, Stad Ddiwydiannol Wrecsam, LL13 9XR
Pam dod?
- Dysgwch sgiliau a gwybodaeth ymarferol sy’n uniongyrchol berthnasol i’ch gweithgareddau ariannu
- Rhwydweithiwch gyda chydweithwyr busnes proffesiynol a chyllidwyr posibl
- Derbyniwch gyngor ac arweiniad gan y tîm a oruchwyliodd Grant Busnes Wrecsam, pobl fusnes broffesiynol sy’n brofiadol wrth ysgrifennu cynigion, a chynrychiolwyr Busnes Cymru.
- Rhowch hwb i’ch cyfle o sicrhau’r cyllid sydd ei angen arnoch i gyflawni amcanion eich busnes
- Cyfle i ddysgu am – a manteisio ar – gymorth Busnes Cymru, gan gynnwys gwybodaeth am bwysigrwydd yr Addewidion Twf Gwyrdd a Chydraddoldeb
Dim ond hyn a hyn o seddi sydd ar gael, felly cofrestrwch nawr i sicrhau eich lle drwy e-bostio business@wrexham.gov.uk
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen: Y cyfnod ymgeisio diweddaraf ar gyfer CFfG yn agor – grantiau ar gael o £50k hyd at £700k.