Ysgol gynradd Rhosymedre yw’r ysgol gyntaf i ymweld â’r arddangosfa Gwaith-Chwarae yn Tŷ Pawb y tymor yma.
Mae’r oriel yn Tŷ Pawb wedi’i thrawsnewid yn lle chwarae antur dan do gwych ac mae i’w weld yn boblogaidd iawn, gyda dros 3,000 o ymwelwyr ers iddo agor ychydig dros wythnos yn ôl!
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Mae yna ddigonedd o bethau i’r plant eu gwneud, gan gynnwys chwarae gyda 16 tunnell o dywod! Mae’r plant wrth eu boddau’n gwneud pebyll, yn dringo, neidio, mynd i fyny ac i lawr y polyn gorsaf dân ac yn cael amser bendigedig yn chwarae fel y mynnon nhw!
Galw ar bob ysgol a meithrinfa
Rydym yn gwahodd ysgolion a meithrinfeydd lleol i ddod am daith o amgylch ein harddangosfa bresennol, ‘Gwaith-Chwarae’, a chymryd rhan mewn gweithdai.
Mae’r arddangosfa’n dathlu celfyddyd chwarae a gwaith radicalaidd parciau chwarae antur byd-enwog Wrecsam.
Bydd Gwaith-Chwarae yn cael ei arddangos yn Tŷ Pawb tan Hydref 27.
Archebwch weithdy/taith!
Os hoffech chi drefnu taith i’ch ysgol neu’ch meithrinfa, anfonwch neges e-bost atom yn oriel.learning@wrexham.gov.uk
Diolch yn arbennig i gyllidwyr yr arddangosfa, sef Cyngor Celfyddydau Cymru | Arts Council of Wales a Celfyddydau a Busnes Cymru, a hefyd i noddwyr yr arddangosfa, sef Grosvenor APTEC
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN