Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Lleihau ein hôl-troed carbon – sut mae hi’n mynd?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Lleihau ein hôl-troed carbon – sut mae hi’n mynd?
Pobl a lleY cyngor

Lleihau ein hôl-troed carbon – sut mae hi’n mynd?

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 30, 2018 9:11 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Climate Change
RHANNU

Ôl-troed carbon? Un o’r ymadroddion “jargon” y mae pawb ohonom yn ei ddefnyddio i drio swnio’n cŵl, neu rywbeth rydym ni’n gweithio’n galed arno? Mae lleihau ein hôl troed carbon yn dangos yr ydym yn chwarae’n rhan i wella byw yn Wrecsam.

Cynnwys
  • “Gosod pwyntiau gwefru cerbydau”
  • “Gwelliannau i ysgolion”
  • “Goleuadau LED”
  • “Sut ydym ni wedi talu am y gwelliannau yma?”

Wel yma yn Wrecsam mae gennym raglen sydd yn dechrau dangos y canlyniadau a dyma flas o’r pethau rydym wedi bod yn eu gwneud.

“Gosod pwyntiau gwefru cerbydau”

Fis Mawrth fe wnaethom adrodd y byddem yn gosod pwyntiau gwefru ceir trydan, a fyddai’n costio £150,000 yn rhai o’n meysydd parcio. Wel ers hynny, mae’n swyddogion wedi bod yn brysur yn sortio trwy’r tendrau ac fe fyddwn yn cyhoeddi yn fuan iawn pryd y byddant yn cael eu gosod er mwyn i chi eu defnyddio.

Fe fydd yna pum safle – Byd Dŵr, Tŷ Pawb, Parc Gwledig Tŷ Mawr, Parc Gwledig Dyfroedd Alun a Thraphont Ddŵr Pontcysyllte – rydym yn credu mai’r cam cyntaf yw hwn i baratoi ar gyfer y cynnydd disgwyliedig yn y defnydd o geir trydan dros y blynyddoedd i ddod.

WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA

Gallwch ddarllen mwy am bwyntiau gwefru isod

https://newyddion.wrecsam.gov.uk/oes-gennych-chi-gar-trydan/

“Gwelliannau i ysgolion”

Mae gwaith gwelliannau ynni wedi cael ei gynnal ar rai o’n hysgolion hefyd trwy ddiweddaru Systemau Rheoli Adeiladau gwell – nid yn unig y bydd hyn yn arwain at ostyngiad yn nefnydd yr ynni ond bydd yn golygu y bydd yr arbedion ariannol yn talu am y gwelliannau mewn ychydig flynyddoedd. Pa mor dda ‘di hynny?

Rydym ni hefyd yn gosod ac yn gwella cysylltiadau i fwyleri mewn ysgolion eraill yn y fwrdeistref sirol ac yn gwella systemau golau.

“Goleuadau LED”

Rydym wedi gwario £70,000 yn gosod goleuadau stryd LED yng nghanol y dref ac rydym ni rŵan yn dewis ardaloedd eraill i elwa o’r math yma o fylbiau golau rhad-ar ynni.

Rydym yn gwario cyfanswm o £400,000 ar leihau ein hôl troed carbon ac mewn nifer o achosion megis uwchraddio i Systemau Rheoli Adeiladau mewn ysgolion, fe fydd yr arian yn cael ei ad-dalu mewn ychydig flynyddoedd.

“Sut ydym ni wedi talu am y gwelliannau yma?”

Fe dalwyd am y cynlluniau amrywiol gan yr incwm sydd wedi’i greu o’n fferm solar Legacy – fe agorodd yn 2017 ac mae’n arbed 1,300 tunnell o CO2 y flwyddyn ac mae’n cynhyrchu 2,355 MWh o drydan yn flynyddol – mae hynny’n ddigon i bweru 700 o gartrefi!

Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Fel cyngor lleol mae gennym ddyletswydd i arwain tra’n edrych ar ddefnyddio ynni’n effeithlon. Mae dod o hyd i arian yn her i ni a’r mwyafrif o awdurdodau lleol eraill, ond mae agor fferm solar Legacy wedi bod yn amhrisiadwy i ni barhau â’r gwaith gwella ar draws y fwrdeistref sirol”.

Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/community_services/flytipping.htm “] DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ydych chi wedi anghofio pa mor hardd ydi Parc Gwaunyterfyn? Dyma nodyn sydyn i’ch atgoffa... Ydych chi wedi anghofio pa mor hardd ydi Parc Gwaunyterfyn? Dyma nodyn sydyn i’ch atgoffa…
Erthygl nesaf Blant – cadwch yn ffit yr haf yma! Blant – cadwch yn ffit yr haf yma!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English