Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Hanner tymor… agorwch eich dyddiaduron
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Hanner tymor… agorwch eich dyddiaduron
Pobl a lleY cyngor

Hanner tymor… agorwch eich dyddiaduron

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 22, 2018 3:28 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Hanner tymor... agorwch eich dyddiaduron
RHANNU

Agorwch eich dyddiaduron yn barod… fe fydd hi’n hanner tymor cyn bo hir ac rydyn ni wedi trefnu digwyddiadau bendigedig ar eich cyfer!

Cynnwys
  • Parciau gwledig
  • Llyfrgell Rhiwabon (mae’r holl ddigwyddiadau yn Llyfrgell Rhiwabon yn rhad ac am ddim)
  • Llyfrgell Wrecsam
  • Llyfrgell Rhos
  • Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt
  • Nofio am Ddim
  • Tŷ Pawb

Parciau gwledig

Diwrnod Hyfforddiant BMX Proffesiynol
Hydref 29, 10am-3pm
Parc y Ponciau
Dewch i ddysgu sut i fynd i’r afael â’r trac a gwella’ch sgiliau. Cwrdd wrth y pafiliwn bowls ym Mharc y Ponciau. Mae’n rhaid cadw lle gan fod lleoedd yn brin, ffoniwch 01978 822780.
Oed 7+
£7.50

GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!

Llwyau Llwgr
Hydref 31, 1.30-3.30pm
Parc Gwledig Dyfroedd Alyn
Dewch i wneud pyped llwy ar gyfer Calan Gaeaf. Dim angen cadw lle, dim ond galw heibio.
Yn addas ar gyfer pob oed.
£2.60

Addurniadau Dail
Tachwedd 1, 1.30-3.30pm
Parc Gwledig Tŷ Mawr
Defnyddiwch ddail yr hydref i wneud addurn prydferth. Dim angen cadw lle!
Yn addas ar gyfer pob oed.
£2.60

Llyfrgell Rhiwabon (mae’r holl ddigwyddiadau yn Llyfrgell Rhiwabon yn rhad ac am ddim)

Hydref 29
2-3pm Grŵp Sgwrsio Cymraeg – croeso i bawb o bob oed dros hanner tymor
3.30pm Gemau bwrdd i’r teulu (pob oed)

Hydref 30
2pm Magic: the Gathering (Twrnament) – yn addas i blant 9 oed a hŷn. Byddai’n ddoeth cadw lle ymlaen llaw. Cysylltwch â’r llyfrgell.
2.15-2.45pm Amser Stori (babanod hyd at dair blwydd oed)

Hydref 31
2.30-3.30pm Yr Ymddiriedolaeth Cŵn gyda Bethan a Flo
3.30-4pm Paws to Read gydag Elliot y teigr

Tachwedd 1
3pm Cornel Grefftau – sticio, gludo neu liwio ar thema coelcerth/yr hydref. Digwyddiad heb oruchwyliaeth.

Tachwedd 2
2pm Gwau a Sgwrsio
3pm Grŵp Lego – cael hwyl wrth adeiladu â Lego
4pm Cyfrifiaduron – sesiwn galw heibio i gael cyngor anffurfiol.

Llyfrgell Wrecsam

Hydref 31
10-11am
Sesiwn stori a chrefft gyda’r Fenter Iaith. Cysylltwch â maiwenn@menterfflintwrecsam.cymru am ragor o wybodaeth.
£1 y plentyn

Fe fydd yno sbort a sbri yn Llyfrgell Wrecsam dros hanner tymor, gan gynnwys taflenni gwaith a gwneud mygydau Winnie’r Wrach a Wwsh ar y Brwsh, a llyfrau bendigedig i’w benthyg o’r silff sbŵci. Cynhelir gweithgareddau gydol yr wythnos, oll yn rhad ac am ddim ac yn addas i bob oed. Galwch heibio am hwyl a sbri.

Llyfrgell Rhos

Hydref 31
2-3pm
Sesiwn stori a chrefft gyda’r Fenter Iaith. Cysylltwch â maiwenn@menterfflintwrecsam.cymru am ragor o wybodaeth.
£1 y plentyn

Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt

29 Hydref, o 2pm. Bydd yr awdur Marie Anne Cope yn dod i sgwrsio am ei gwaith ysgrifennu a darllen un o’i straeon arswydus i oedolion. Croeso i bawb.

1 Tachwedd, 1, 10.30–11.30am. Pawennau Brawychus! Mae croeso i blant ysgolion cynradd ymuno â’r Dogs Trust yn y llyfrgell am weithgareddau brawychus, llawn hwyl a dysgu sut i fod yn gall gyda chŵn.

1 Tachwedd, 2pm. Prynhawn Fflim! £1 am luniaeth – popgorn a diod.

Hefyd, gallwch bicio i mewn unrhyw bryd yn yr wythnos a phaentio carreg ar gyfer arddangosfa gofio’r ganolfan. Croeso i oedolion a phlant.

Nofio am Ddim

I gael manylion yr holl sesiynau pwll nofio am ddim yn Wrecsam, cliciwch yma…

Tŷ Pawb

Os ydych eisiau gwybod beth sy’n mynd ymlaen at Dŷ Pawb yn ystod yr Hanner Tymor, cliciwch yma…

Sut i fod yn archarwr ailgylchu…mewn dau gam syml.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk/gwiriwch-a-golchwch-a-gofalwch-am-y-gweddillion-2-gyngor-ailgylchu-syml-ar-gyfer-gwell-wrecsam/”]DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Plastic Bottles Recycling Wrexham Byddwch yn ffan-plastig am ailgylchu! Sut i ailgylchu plastig yn Wrecsam…
Erthygl nesaf Glanhau Cymunedol yn Stryt Las Glanhau Cymunedol yn Stryt Las

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English