Os oes arnoch angen gwneud cais am gludiant i’r ysgol ar gyfer eich plentyn o fis Medi ymlaen, byddwch yn gallu gwneud hyn ar-lein yn fuan a bydd yn llawer cynt a chyfleus.
Ni fydd angen i’r rhai hynny sydd eisoes wedi cofrestru am dderbyniadau ysgol ar-lein drwy ein porth wneud unrhyw beth oni bai am fewngofnodi a llenwi’r wybodaeth angenrheidiol.
Gallwch ond gwneud cais ar ôl 1 Mawrth unwaith y bydd lle eich plentyn wedi cael ei gadarnhau gan ein Hadran Derbyniadau.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.
Bydd ceisiadau yn parhau ar agor tan 31 Mawrth ar gyfer y tymor newydd ym mis Medi. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os fyddwch yn llwyddiannus erbyn 31 Gorffennaf.
I wneud yn siŵr eich bod yn barod ym mis Mawrth, gallwch gofrestru yma yn awr.
“Ydi fy mhlentyn yn gymwys i gael cludiant i’r ysgol?”
Byddwn yn darparu cludiant am ddim i ddisgyblion sydd yn mynychu eu hysgol addas agosaf pan mae’r pellter cerdded yn fwy na 2 filltir i ddisgyblion ysgol gynradd neu 3 milltir i blant ysgol uwchradd. Os ydych yn ansicr os ydych yn gymwys i wneud cais, gallwch ddarllen mwy yma.
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/AchieveForms/?form_uri=sandbox-publish://AF-Process-525d4591-1e82-4383-921f-0eaadd6c7ff0/AF-Stage-d4b0718f-3b6a-4103-a4b7-3ae96da19278/definition.json&redirectlink=%2Fcy&cancelRedirectLink=%2Fcy&consentMessage=yes”] RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD [/button]