Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen “Wrecsam, Edrychwch i Fyny!!”
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > “Wrecsam, Edrychwch i Fyny!!”
ArallFideoPobl a lle

“Wrecsam, Edrychwch i Fyny!!”

Diweddarwyd diwethaf: Mai 1, 2019 4:19 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
RHANNU

Mae gosodiad celf newydd sbon i’w weld yn yr Arcêd Ganolog diolch i Wirfoddolwr Prosiect Celf Adeiladau lleol, Wayne Price.

Cynnwys
  • “Cyfarfod ar hap”
  • “Cefnogwch fusnesau annibynnol lleol”

Gosodiad celf yw “Wrecsam, Edrychwch i Fyny!!” sydd wedi’i wneud allan o dros 200 o globau papur lliwgar uwchben y siopau yn yr Arcêd. Maent wedi cael eu gosod yn raddol dros y dyddiau diwethaf ac mae’r gorffeniadau olaf wedi cael eu gwneud i gwblhau’r gwaith. Ac maen nhw’n edrych yn wych 🙂

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB

Maen nhw eisoes wedi achosi storm yn y cyfryngau gyda sylwadau fel “prydferth”, “anhygoel”, “hyfryd”, “tlws”, “cŵl” ac “ardderchog” yn ymddangos ar negeseuon amrywiol.

“Cyfarfod ar hap”

Meddyliwyd am y syniad yn ystod cyfarfod ar hap mewn caffi rhwng perchennog siop Abode Above yn yr Arcêd Ganolog, Daphne Roberts ac Arweinydd Gwirfoddolwyr Prosiect Celf Adeiladau Wrecsam, Wayne Price.

Penderfynodd y ddau gydweithio er mwyn dod ag ychydig o liw i’r ardal siopa ac i atgoffa pobl bod yr Arcêd Ganolog yn lle hyfryd i ymweld ag o, arweiniodd hynny at globau “Wrecsam, Edrychwch i Fyny!!”.

“Cefnogwch fusnesau annibynnol lleol”

Dywedodd Daphne, “Mae’r adborth hyd yma wedi bod yn aruthrol, mae pawb wrth eu boddau efo nhw. Rydym am i bobl wybod bod yr Arcêd Ganolog yn drysor yng nghanol Wrecsam, yn ogystal â chartref i nifer o fusnesau bach annibynnol. Felly, edrychwch i fyny, edrychwch o gwmpas, cefnogwch fusnesau annibynnol lleol a dywedwch wrth bawb bod ‘yr Arcêd Ganolog yn gymaint mwy na thramwy trwodd”

Dywedodd Wayne Price, “Yn ôl yr arfer, mae llawer o bobl y dylid diolch iddyn nhw am roi prosiect o’r maint hwn at ei gilydd. Diolch yn gyntaf i Daphne, Steven, Angie o RedCrafts a holl fasnachwyr yr Arcêd Ganolog am eu help, eu gweledigaeth a’u dyhead i gwblhau’r prosiect hwn, diolch i landlordiaid yr Arcêd Ganolog am eu caniatâd, diolch i’r gwirfoddolwyr ar y dydd, Daphne, Christian, Angie a Sharon Rogers.”

Nid dyma’r tro cyntaf i Wayne weithio yng nghanol y dref. Ym mis Tachwedd roedd yn gyfrifol am y murlun coffa ar Stryt y Bonc – ei brosiect cyntaf ac yn fwy diweddar mae wedi ailymweld â Stryt y Bonc i sbriwsio ychydig mwy o adeiladau.
Gallwch ddarllen am y murlun coffa canmlwyddiant yn yr erthygl isod.

O ble daeth hwnna?

Ymwelodd y Maer, y Cynghorydd Andy Williams, â’r gosodiad pan oedd bron a chael ei gwblhau. Meddai: “Dylid llongyfarch Wayne am ei fentrau sy’n gwella ymddangosiad rhai o’n hadeiladau hynaf ar hyn o bryd. Maen nhw i gyd yn briodol iawn i’r adeiladau eu hunain a gwn fod ymwelwyr canol y dref yn gwerthfawrogi ei wreiddioldeb a’i waith caled wrth gwblhau’r prosiectau sydd wedi bod hyd yma.”

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_61″] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Rhosddu FC Pêl Droed yw’r canolbwynt wrth i’r Cyngor Chwaraeon ddyrannu £100,000 ar gyfer gwelliannau
Erthygl nesaf Mae Tŷ Pawb wedi dathlu ei phen-blwydd cyntaf mewn steil! Mae Tŷ Pawb wedi dathlu ei phen-blwydd cyntaf mewn steil!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English