Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Covid-19 (Coronafirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd, 23.3.20
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Covid-19 (Coronafirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd, 23.3.20
Y cyngor

Covid-19 (Coronafirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd, 23.3.20

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 26, 2020 11:04 am
Rhannu
Darllen 6 funud
Covid 19
RHANNU

Mae’r nodyn hwn yn cynnig gwybodaeth fwy diweddar na’r blog hwn ddydd Gwener (20.3.20).

Cynnwys
  •  Negeseuon allweddol heddiw:
  • Gwasanaethau critigol yn unig
  • Ysgolion
    • Cau ysgolion
  • Parciau a mannau chwarae
  • Gwasanaethau amlosgfa
  • Byddwch yn wyliadwrus o sgamiau Covid-19
  • I’ch atgoffa – ffynonellau dibynadwy o wybodaeth am Covid-19
  • Fedrwch chi helpu fel gwirfoddolwr?

 Negeseuon allweddol heddiw:

O fory ymlaen, dim ond gwasanaethau critigol fyddwn ni’n eu darparu. Mae’r rhain yn bethau rydym wedi nodi sy’n gwbl hanfodol i’n cymunedau a gweithrediad y cyngor.

  • Os nad ydych chi’n weithiwr allweddol yn ôl diffiniad y Llywodraeth, peidiwch â rhoi pwysau ar ysgolion i gymryd eich plant.
  • Dilynwch gyngor y Llywodraeth ar ymbellhau cymdeithasol.
  • Rydym yn cau ein parciau a’n mannau chwarae.
  • Rydym yn cyfyngu ar wasanaethau yn yr amlosgfa i 30 o unigolion.

 Ian Bancroft – Prif Weithredwr

 Y Cynghorydd Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor

 Mae gofyn i bobl aros ar wahân ac aros gartref yn dipyn i’w ofyn. Mae’r Llywodraeth yn cydnabod hynny.

Fodd bynnag, roedd yn ymddangos fod rhannau o Ogledd Cymru’n brysurach nac erioed dros y penwythnos, wrth i bobl heidio i leoliadau twristaidd poblogaidd a pharciau gwyliau.

Mae’r math hwn o ymddygiad yn peryglu bywydau.

Mae ‘Ymbellhau cymdeithasol’ yn hanfodol os oes siawns i ni reoli ymlediad y firws hwn, ac atal y GIG rhag wynebu pwysau gormodol.

Yn syml, mae’n golygu lleihau’r cyswllt rydym yn ei gael gydag eraill – aros i ffwrdd o fannau prysur, grwpiau o bobl a hyd yn oed ffrindiau a theulu – felly mae llai o siawns y bydd y firws yn lledaenu.

Drwy aros i ffwrdd o’n gilydd, gallwn gydweithio i geisio cadw Wrecsam mor ddiogel ag y gall fod.

Rydym wedi rhoi’r wybodaeth a ganlyn at ei gilydd i’ch helpu i ddeall y newidiadau diweddaraf i wasanaethau’r cyngor.

Gwasanaethau critigol yn unig

O fory ymlaen, dim ond gwasanaethau critigol fyddwn ni’n eu darparu. Mae’r rhain yn bethau rydym wedi nodi sy’n gwbl hanfodol i’n cymunedau a gweithrediad y cyngor.

Maent yn cynnwys gwasanaethau cymdeithasol, cyngor ar fudd-daliadau tai, llety gwarchod, ysgolion (ar hyn o bryd yn agored i weithwyr allweddol a phlant diamddiffyn yn unig), gwagio biniau a phethau eraill y mae pobl yn dibynnu arnynt.

Byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth i chi’n fuan.

Ysgolion

Cau ysgolion

Mae ysgolion yn Wrecsam wedi cymryd rôl newydd o heddiw ymlaen – darparu lleoedd ar gyfer plant ;gweithwyr allweddol’ er mwyn iddynt fedru parhau i wneud eu swyddi.

Mae ysgolion yn gweithredu gyda llai o staff yn sgil effaith y firws, ac mae hon yn dipyn o her.

Fodd bynnag, mae rhai pobl yn ceisio cymryd mantais ar hyn, ac yn rhoi pwysau mawr ar benaethiaid i gymryd eu plant, pan nad ydynt yn cwrdd â’r meini prawf ar gyfer gweithwyr allweddol.

Os nad ydych chi’n weithiwr allweddol yn ôl diffiniad y Llywodraeth (e.e. gweithwyr iechyd a gofal, swyddogion gwasanaethau brys, gyrwyr dosbarthu i archfarchnadoedd, swyddogion carchar) ni chewch chi anfon eich plentyn i ysgol ar hyn o bryd.

Cludiant Ysgol

Bydd trefniadau cludo ar gyfer plant sy’n dal i fynd i’r ysgol (h.y. plant gweithwyr allweddol a phlant diamddiffyn) ar gael fel arfer yr wythnos hon.

Os oes angen i ni wneud unrhyw newidiadau, bydd rhieni a gofalwyr yn cael eu hysbysu gan eu hysgolion.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Parciau a mannau chwarae

O heddiw ymlaen, rydym yn cau ein parciau gwledig a amgaewyd a mannau chwarae a reolir gan y cyngor.

Mae hyn yn cynnwys Tŷ Mawr a Dyfroedd Alun, a bydd hysbysiadau’n cael eu gosod er mwyn helpu rhoi gwybod i bobl am y cau.

Fel pob cyngor arall ar draws y DU, rydym yn gwneud hyn er mwyn cefnogi ymbellhau cymdeithasol.

Gwasanaethau amlosgfa

Rydym hefyd yn cyflwyno mesurau yn Amlosgfa Pentrebychan i annog ymbellhau cymdeithasol.

O hyn allan, cyfyngir gwasanaethau i 30 o bobl.

Byddwch yn wyliadwrus o sgamiau Covid-19

Mae timau Safonau Masnach ar draws y DU yn parhau i gael adroddiadau am sgamiau sy’n cymryd mantais ar y sefyllfa bresennol.

Felly os ydych chi’n cael cynnig o gymorth, holwch eich hun a yw’n swnio’n ddilys cyn ichi ei dderbyn.

I’ch atgoffa – ffynonellau dibynadwy o wybodaeth am Covid-19

Darperir y wybodaeth ddiweddaraf am y firws a’r hyn y dylai bobl ei wneud gan:

  • Datganiadau teledu dyddiol gan y Llywodraeth (gan gynnwys y Prif Weinidog).
  • Briffiau swyddogol dyddiol gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am 2pm, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am 3pm.

Fedrwch chi helpu fel gwirfoddolwr?

Gallwch gofrestru fel gwirfoddolwr posibl i helpu staff sy’n darparu gwasanaethau rheng flaen a chefnogi cyfeillachu cymunedol.

Mae AVOW (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam) yn annog pobl i ymrwymo i hyn.

Mae’r sefyllfa hon yn newid yn gyflym, felly byddwn yn rhyddhau gwybodaeth bellach pan fydd hynny’n briodol.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/”] Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Online resources Ydi’r plant gartref? Fe allai’r adnoddau yma sydd ar-lein helpu
Erthygl nesaf Covid 19 Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – Nodyn Briffio’r Cyhoedd 24.3.20

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English